Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Miloedd o fyfyrwyr newydd yn mwynhau digwyddiadau Ffair y Glas

Daeth miloedd o ddysgwyr i ddigwyddiadau Ffair y Glas ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai dros y 10 diwrnod diwethaf.

Cofrestrodd dros 5,000 o fyfyrwyr newydd gyda'r Grŵp ym mis Medi, ac fe gynhaliwyd y digwyddiadau ar gampysau Bangor, Llangefni, Parc Menai, Llandrillo-yn-Rhos, Glynllifon, Dolgellau a Phwllheli i groesawu myfyrwyr newydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd.

Yn ystod y digwyddiadau roedd cyfle i ddysgwyr gwrdd â chynrychiolwyr clybiau, busnesau ac elusennau oedd yno i'w cynorthwyo i wneud y gorau o'u cyfnod yn y coleg. Roedd cyfle hefyd i flasu danteithion Mr Ricky'r desserts, i dynnu llun gyda Event Lounge a chael sgwrs gyda staff y coleg am bopeth, o gyllid a chludiant i academïau chwaraeon.

Ymhlith y sefydliadau yn bresennol roedd Zip World, Undeb Rygbi Cymru, Prifysgol Bangor, Prisygol Glyndŵr Wrecsam, Y Brifysgol Agored, GIC, Adran Recriwtio i'r Fyddin Recruitment, Y Llynges Frenhinol, Mind, Childline, Gyrfa Cymru, Sextember, Mr Ricky 'Prince of Desserts', Barnardo’s, Academi Taekwondo Sir Ddinbych, Urdd Gobaith Cymru, Fitness First, Syniadau Mawr Cymru a CaMVA, asiantaeth cyflogaeth a menter Grŵp Llandrillo Menai.

Roedd yr adborth gan fyfyrwyr yn wych, dywedodd Jason Scott, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Menai: "Roedd Ffair y Glas yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr weld pa bethau sydd ar gael iddynt yn y coleg, roedd pawb des i ar eu traws wedi mwynhau'n fawr."

Meddai Jade Dishman, sy'n dilyn cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos: "Roedd hwn yn ddefnyddiol iawn, mi ddysgais i lawer yma.

“Mi welon ni lawer o bethau gwahanol - mae 'na bobl yma i'n cynorthwyo i gael gwaith ac mi ddangosodd y stondin lles pa gymorth sydd ar gael yn y coleg ar unrhyw bryd. Roedd hynny'n ddefnyddiol iawn oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod amdano cyn hynny. ⁠Mae 'na bethau o bob math yma - a llawer o bethau am ddim!"

Dywedodd Joshua Wynne, sy'n dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio Lefel 3 yn Llandrillo-yn-Rhos: "Ro'n i'n meddwl bod y digwyddiad yn wych. Roedd gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar rai stondinau, pethau fydd o gymorth i mi yn y dyfodol, yn cynnwys Syniadau Mawr Cymru a ddangosodd i mi sut gallwn anelu at redeg fy nghwmni fy hun yn 20 oed."

Meddai Ellie o Aberdyfi, sy'n dilyn cwrs Iechyd a Harddwch yn Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau: ⁠ "Mi wnes i fwynhau ffair y glas yn fawr iawn. Roedd yn neuadd yn llawn cwmnïau a sefydliadau diddorol. ⁠Dw i eisoes yn meddwl am fy nyfodol a'r cysylltiadau dw i wedi'u gwneud yma."

Roedd y digwyddiadau hefyd yn fuddiol i'r sefydliadau oedd wedi dod â stondin yno.

Dywedodd Drew Hollins Roberts sy'n gydlynydd hyfforddi a recriwtio yn Zip World: "Daethon ni yma i gwrdd â myfyrwyr a chynnig cyfle iddynt i ddod i weithio i ni o fis Ionawr ymlaen.

Mae wedi bod yn fuddiol i ni ddod yma, mi ddaeth nifer fawr o fyfyrwyr i gael sgwrs â mi am y pethau sy'n digwydd yn Zip World. Roedd y digwyddiadau wedi'u trefnu'n dda iawn, ac mae siarad gyda chymaint o bobl am yr hyn mae Zip World yn ei wneud wedi bod yn wych. O fy safbwynt i mae'r ffair wedi bod yn llwyddiant lawr."

Meddai Julie Stokes-Jones, Swyddog Arweiniol Lleoliadau Gwaith gyda CaMVA: "Dyma'r tro cyntaf i CaMVA ddod i Ffair y Glas. ⁠Rydym yn y broses o lansio swyddfeydd cyflogaeth a menter ac mae ymateb a diddordeb y myfyrwyr wedi bod yn ardderchog. Rydym wedi cael cyfle i siarad efo nifer fawr o fyfyrwyr a'r gobaith ydy y byddwn ni'n gallu eu cefnogi ar y daith at waith neu ddechrau busnes.

"Os na chawsoch gyfle i siarad â ni yn y ffaith ewch i 'n gwefan a chofrestru, bydd hyfforddwr cyflogadwyedd neu swyddog menter yn cysylltu â chi.”

Dywedodd Leusa Jones, swyddog cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Mae cael y cyfle i siarad gyda'r myfyrwyr wedi bod yn wych, mae'n codi calon ac mae hi'n braf clywed am eu diddordeb yn yr Iaith Gymraeg."

Ychwanegodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr: "Mae'r pythefnos diwethaf wedi bod yn ardderchog - mae hi'n wych gweld cymaint o'n dysgwyr yn rhwydweithio gyda sefydliadau mewnol ac allanol. Mae digwyddiadau Ffair y Glas yn bwysig iawn i Grŵp Llandrillo Menai, maen nhw'n cynnig cyfle i fyfyrwyr newydd, a myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r coleg, weld pa gefnogaeth sydd ar gael.

Dw i wedi clywed adborth arbennig o dda gan ddysgwyr a gan aelodau o staff, ac mae rhai wedi dweud bod y digwyddiadau yn cynnig cyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd yn y coleg. Mi oedd hi'n braf clywed hynny oherwydd mae'n bwysig iawn ac mi fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hastudiaethau.

“Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau allanol am ddod i'r digwyddiadau a rhyngweithio â’n myfyrwyr, ynghyd â’n holl gydlynwyr arweiniol a hwylusodd y digwyddiadau a gwneud i bopeth ddod at ei gilydd.

“Rwy’n awyddus iawn i gael rhagor o adborth o’r digwyddiadau er mwyn sicrhau, y flwyddyn nesaf, ein bod yn parhau i wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud orau - sef sicrhau ein bod yn cynnig y profiad gorau posibl i’n myfyrwyr yn ystod eu hwythnosau cyntaf yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Rhowch wybod i mi os oes gennych unrhyw beth trwy anfon e-bost ataf ⁠a.beacher@gllm.ac.uk.”