Medal Efydd i Lucas ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau'r Byd
Lucas Williams o Goleg Menai ydy pencampwr Prydain ac enillodd le ar y podiwm yn ei gystadleuaeth ryngwladol gyntaf yn Romania.
Cipiodd Lucas fedal efydd ym Mhencampwriaethau Rhyngwladol y Ffederasiwn Codi Pwysau a gynhaliwyd yn Cluj-napoca, Romania.
Daeth y myfyriwr 18 oed o Gaergybi yn drydydd yn y categori iau dan 83kg mewn cystadleuaeth rhwng 21 athletwr o bob cwr o'r byd.
Enillodd Lucas, sy'n dilyn cwrs Lefel 2 mewn Weldio ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, yr hawl i gystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd ar ôl ennill teitl pencampwr Prydain (dan 18 oed) ym mis Ebrill.
Dyma'r drydedd tro yn unig iddo gystadlu er dechrau codi pwysau 18 mis yn ôl, ac mae'n targedu rhagor o lwyddiant yn ystod 2024 pan fydd yn symud i fyny i lefel uwch (oedran 18-23).
Dywedodd Lucas: "Roedd yn hwyl! Dw i'n anelu at ennill teitl Pencampwr Prydain ar lefel iau, a gobeithio y caf i gyfle i gystadlu ar lefel rhyngwladol ym Mhencampwriaethau'r Byd eto.
Rhaid codi'r bar dair gwaith yn ystod y gystadleuaeth codi pwysau hon, codi o'r cwrcwd, o'r fainc a chodi o'r llawr sy'n wahanol i'r gystadleuaeth Olympaidd sy'n cynnwys cipio a phlwc dwy law.
Yn Romania, cododd Lucas 242.5kg o'i gwrcwd, 147.5kg o'r fainc a 280.5kg o'r llawr i orffen yn drydydd y tu ôl i Scanlon Thomas o Seland Newydd a Tyler Joseph o UDA.
Mae'n hyfforddi gyda'i hyfforddwr bedair gwaith yr wythnos ac yn gwneud ymarfer MMA hefyd yn ei amser sbâr i gadw'n heini.