Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Taith Feiciau i Ibiza dros achos teilwng

Mae mab darlithydd yng Ngholeg Llandrillo yn trefnu taith feics aruthrol o hir o ogledd Cymru i Ibiza er cof am ei fam.

Mae Ross Howcroft-Jones, mab Kevin sy'n darlithio yn adran Beirianneg y coleg ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, yn beicio'r daith fynyddig 758.21 milltir o hyd gyda'i dîm dros gyfnod o saith diwrnod yn ystod mis Gorffennaf 2022, er mwyn codi arian dros Ymchwil Canser a Mind Cymru.

Bu farw Gaye, mam Ross a gwraig Kevin, yn ystod cyfnod y Nadolig y llynedd yn 59 oed, wedi i ganser ei tharo am y trydydd tro. Dewisodd Ross Ibiza oherwydd mae Cala Pada, pentref bach ar arfordir gogledd ddwyrain Ibiza yn gyrchfan gwyliau ac ail gartref y teulu ers 1997.

Ysgrifennodd Ross deyrnged i'w fam ac mae fersiwn cryno ohono isod.

"Roeddwn i'n saith oed pan es i i Cala Pada am y tro cyntaf ac roeddwn i wrth fy modd yn crwydro ac yn archwilio'r ynys gyda ffrindiau oedd yn dod i aros gyda fy rhieni. Roedd fy rhieni yn ffrindiau da gyda phobl yr ynys ac fe gawsant eu gwahodd i briodasau a bedyddiadau yno ac roedd hi'n draddodiad iddynt ddathlu eu pen-blwydd priodas yno bob blwyddyn.

"Dim ond ddwywaith mae Mam a Dad wedi methu mynd yno dros yr haf ers 1997. Y tro cyntaf yn 2008 pan gafodd fy mam ddiagnosis canser yr ysgyfaint. Derbyniodd driniaeth ac roedd hi'n gyfnod heriol ond roedd hi'n benderfynol fel bob amser i wella ar ôl colli traean o'i hysgyfaint. Yn 2010 canfuwyd bod gan Mam ail ddos o ganser yn y groth. Cafodd hysterectomi a gwella, ac roedd hi'n gallu dangos ei chreithiau ar draeth Cala Pada. Pan darodd Covid-19 y byd, roedd hi'n amlwg na fyddai Mam a Dad yn gallu mynd yn ystod 2020 ar y daith roeddynt wedi ei gwneud ers 23 o flynyddoedd.

"Yna yn ystod mis Ebrill 2020, pan ddaeth teithio tramor i ben, cafodd Mam ddiagnosis o ganser yn ei hasgwrn cefn. Yn dilyn llawdriniaeth aflwyddiannus roedd hi'n gaeth i gadair olwyn ond ei dymuniad oedd treulio pen blwydd 40 mlynedd o briodas yn Ibiza gyda fy nhad ym mis Gorffennaf 2021.

Aethom ati i gynllunio a gwireddu dymuniad fy Mam ond roedd gwaeth eto i ddod. Ym mis Awst 2020, cafodd Mam wybod nad oedd gwella i fod, a bod ganddi dri mis i fyw, ac mi welon ni ddirywiad gwraig oedd yn uchel ei pharch ac yn annwyl i nifer o bobl. Bu farw Mam ar 26ain o Ragfyr yn 59 oed. Cyrhaeddais yr ysbyty ar fy meic a dychwelyd adre ar feic, 32 milltir nad anghofia i byth.

"Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 ni fy modd i mi a Dad fynd i Ibiza i wasgaru llwch Mam ar ddyddiad eu pen blwydd priodas ym mis Gorffennaf 2021, felly penderfynon ni aros tan haf 2022.

Datblygodd syniad dros ddiod yn y dafarn gyda fy ffrind Josh yn gynllun i fynd ar gefn beic o Lanwydden, Gogledd Cymru i Cala Pada, Ibiza i wasgaru llwch Mam.

Roedd Mam yn cyfeirio at Josh fel 'mab', a fo sydd wedi rhoi pethau ar waith i gynllunio taith er cof amdani. Bydd angen sgiliau ac agwedd gadarnhaol arnom ni, nodweddion roedd hi'n eu harddangos yn ystod y dyddiau anoddaf, a bob amser â gwen ar ei hwyneb. Mae hefyd yn brawf bod mynd ar feic gyda ffrindiau da yn arwyddocaol ac yn gallu cael effaith gadarnhaol ar les personol ac iechyd meddwl rhai sydd yn profi profedigaeth. Byddwn yn codi arian dros Ymchwil Canser a Mind Cymru yn ystod y daith.

Mae rhestr o'r rhai sydd yn cymryd rhan isod ynghyd â dolenni i'w cyfrifon Instagram er mwyn dilyn y daith yn fyw.

Ross Howcroft-Jones (@rosshj7)

Josh Pierce Jones (@jpj1990)

Aiden O’Leary (@aidenoleary)

Kieran Wynne-Cattanach (@kieranwc)

Jac Lewis (@jaclewis97)

Chris Mann (@chrismann01)

Dylan Kerfoot-Robson (@dylankr)

Ben Kitchin (@benkitchin)

Guy Butterworth (@guybutterworth1)

Jack Cole (@jack_cole93)

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

James Alcock (Wob) (@jamesalcock)

Cyfrifol am gyfathrebu ac yn ymuno â ni ar y daith pan fo hynny'n bosib. Bydd 'Wob' yn teithio o flaen y daith i wirio llety a threfnu llefydd i aros am egwyl.

Tomos Davies (@tomdaviescycling_00)

Yn ymuno o Lanwydden i Portsmouth ar gyfer Camau 1 a 2 yn y DU.

Callum Dixon (@cdixon091291)

Mae o'n gyrru i Ffrainc ar ei fis mel ond wedi dwyn perswâd ar ei wraig i gael ymuno â cham 4 a 5 .... diolch Cate!

Camau a Sefydliadau

Cam 1: Glanwydden - Gorsaf Drenau Crewe

(gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Glanwydden)

Cam 2: Soho, Llundain - Porthladd Rhyngwladol Portsmouth

(gyda chefnogaeth Chlwb Beicio Rapha)

Cam 3: Le Havre, Ffrainc - y Tŵr Eiffel

(gyda chefnogaeth Jess Dineen Hairdressing)

Cam 4: Bourg St-Maurice - Vaujany Lac

(gyda chefnogaeth ag Queen's Head Freehouse)

Cam 5: Saint-Sorlin-d’Arves – Port-les-Valence

(mewn cydweithrediad â WE Cycle)

Cam 6: Nimes – St Hippolyte

(gyda chefnogaeth Ryan Morley Coaching)

Cam 7 St Hippolyte – Barcelona

(gyda chefnogaeth Birch Bakery)

(gweler y daflen ar gyfer Cam 8) Ibiza Port – Cala Pada

(Dathliad o fywyd Gaye Howcroft-Jones)

Nodiadau'r Camau Olaf:

Bydd y beicwyr yn cyrraedd Porthladd Ibiza am 6.30am ac yn cwblhau siwrnai fer i Cala Pada

am frecwast.

Bydd adloniant gyda'r hwyr yn dechrau ar y traeth yng nghwmni band lleol, paella,

a cerveza.

Glanwydden Community Village Party.

* Teithiau ar drên ac ar gwch rhwng y camau.

I wybod rhagor am gyfrannu, cliciwch ar y dolenni isod:

https://linktr.ee/rosshowcroftjones

https://www.justgiving.com/crowdfunding/Wales2Ibiza?utm_term=QVKdPekvZ