Grŵp Llandrillo'n sicrhau buddsoddiad o gronfa Gronfa Adfywio Cymunedol y DU
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad gwerth £2.5 miliwn o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU (UKCRF).
Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
"Mae Grŵp Llandrillo Menai'n croesawu cyhoeddiad Cronfa Adfywio Cymunedol y DU gwerth £220m ac rydym wrth ein boddau i gyhoeddi y byddwn yn darparu prosiectau gwerth £2.5 miliwn ar draws yr ardal."
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn brawf o enw da Grŵp Llandrillo Menai am weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddarparu prosiectau sy'n cael effaith cadarnhaol yn lleol mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol eraill o'r sector breifat a'r sector cyhoeddus. Bydd y buddsoddiad arwyddocaol hwn gan Lywodraeth y DU yn ein cynorthwyo hefyd i baratoi ar gyfer prosiectau sylweddol yn y dyfodol i gyd-fynd â chyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU."
Bydd Grŵp Llandrillo Menai'n arwain ar y prosiectau isod:
Hwb Arloesi ym Maes Twristiaeth yng Nghonwy mewn partneriaeth â Mostyn Estates: bydd y prosiect hwn yn cefnogi gweithgareddau arloesol sydd â'r nod o feithrin talent ac ymestyn y tymor ymwelwyr.
Academi Ddigidol a Busnesau Sero Net - yn gweithio yng Ngwynedd a Môn ac yn cefnogi busnesau meicro a busnesau bach i wella eu gallu digidol a lleihau eu hallbynnau carbon gyda chefnogaeth gwasanaeth cwnsela arbenigol.
Cyswllt STEM Sir Ddinbych - nod y prosiect ydy ysbrydoli a thanio brwdfrydedd dysgwyr ifanc mewn gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg drwy ychwanegu gwerth at gwricwlwm mwy ffurfiol.
Addysg Lefel 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - prosiect i gynnig hyfforddiant o safon uchel mewn ymarfer Gofal Iechyd yn ogystal â hyfforddiant Arwain a Rheoli mewn cartrefi gofal.
Mae Grŵp Llandrillo Menai hefyd yn bartner allweddol y, Partneriaeth Sero Net Gwynedd, prosiect sero net dan arweiniad cymdeithas dai Adra ar y cyd â Busnes@LlandrilloMenai ac amrywiaeth o bartneriaid eraill ar draws Gwynedd.
Croesawyd y cyhoeddiad ar draws yr ardal. Meddai Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Partneriaeth Sero Net Gwynedd:
"Rydw i'n croesawu’r cyhoeddiad ac yn edrych ymlaen at gydweithio i ddarparu nifer o gynlluniau fydd yn arwain at fanteision economaidd ac amgylcheddol i gymunedau ar draws Gwynedd."
Meddai Virginia Crosbie AS Ynys Môn ar ran ei etholaeth:
"Llongyfarchiadau i Grŵp Llandrillo Menai am sicrhau buddsoddiad gwerth £2.5 miliwn o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU (UKCRF) Mae'r sefydliad arbennig hwn yn gwneud cymaint o waith da i baratoi ein hynys ar gyfer y dyfodol mewn partneriaeth â'r sectorau cyhoeddus a phreifat."
"Mae gwaith caled y sefydliad yn y meysydd allweddol, addysg, digidol, net sero, hyfforddiant a thwristiaeth yn hanfodol a dyma gonglfeini ein ffyniant yn y dyfodol."
Nododd Robin Millar AS Aberconwy am yr Hwb Arloesi ym Maes Twristiaeth yng Nghonwy:
"Hoffwn ddiolch ac wrth gwrs longyfarch pawb o Grŵp Llandrillo Menai a Mostyn Estates am eu gwaith caled yn paratoi'r ceisiadau llwyddiannus."
"Mae dyfarniadau Cronfa Adfywio Cymunedol yn bwynt cychwynnol i'r berthynas newydd rhwng Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol. Rydw i wedi fy nghyffroi i gael gweithio'n uniongyrchol â'r Cyngor, grwpiau cymunedol, busnesau lleol ac elusennau ar hyn ac rydw i'n edrych ymlaen at eu cefnogi wrth iddynt baratoi prosiectau dan nawdd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae hi'n hanfodol bwysig bod unrhyw nawdd ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn cael ei gyfeirio'n uniongyrchol at sefydliadau sy'n deall eu cymunedau.
Dywedodd James Davies, AS Dyffryn Clwyd:
"Rydw i wrth fy modd bod Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn cynnig £2.89 o gyllid ychwanegol i Sir Ddinbych, bydd o gymorth iddynt baratoi ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin fydd yn disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE.
"Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi derbyn bron i £400,000 ar gyfer Cyswllt STEM Sir Ddinbych', prosiect sydd â'r nod o gynyddu sgiliau a'r diddordeb yn nhwf diwydiannau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Bydd y prosiect yn gweithio gyda gweithwyr allweddol i ddatblygu amrywiaeth o weithdai a bydd yn datblygu fframwaith cydnabyddedig i gynnig tystysgrif 'barod am STEM'.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i
www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus