Myfyrwyr CMD yn ymweld a’r theatr am y tro cyntaf mewn 2 flynedd.
Aeth myfyrwyr o'r adrannau Drama a Saesneg am drip theatr yn ystod ein wythnos ddarllen cyn hanner tymor.
Hwn oedd y cyfle cyntaf mewn 2 flynedd i weld perfformiad byw o theatr. Roedd y myfyrwyr wedi ymgolli yn y perfformiad o Cat on a Hot Tin Roof gan Tennessee Williams, drama a enillodd y wobr Pulitzer, perfformiad ar y cyd oedd hwn gan gwmni teithiol Saesneg 'Curve' a theatrau'r Everyman a Playhouse yn Lerpwl.
Dywedodd Holly Jones, myfyrwir Lefel A ym Mhwllheli
“ Yn bersonol, mi wnes i fwynhau’r ddrama yn fawr iawn. Roedd y ffordd finimalaidd y cafodd ei chyflwyno yn effeithiol iawn, gan fod y ffocws ar y ddrama a’r stori ei hun yn unig, nid y propiau. ”
Drama yw hi am bobl sydd eisiau bod yn rhydd ond wedi'w clymu gan gyfyngiadau cymdeithas. Mae'r myfyrwyr yn astudio drama Williams sef “A streetcar named desire” yn ogystal a “A view from a bridge” gan Arthur Miller, dramau sydd a themau tebyg iawn i hon.