Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Peirianneg yn Derbyn Ei Gap Cyntaf dros Gymru

Mae myfyriwr Peirianneg o Goleg Meirion-Dwyfor ar fin cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf ar ôl cael ei gynnwys yng ngharfan pêl-droed Ysgolion a Cholegau Cymru dan 18 oed.



Yr wythnos hon bydd Cian Pritchard – sy’n byw ym Mhorthmadog – a’i gyd-chwaraewyr yn herio tîm Ysgolion Awstralia mewn gêm ar Goedlan y Parc, Aberystwyth.

Dywedodd Cian, sy’n astudio ar gampws Dolgellau’r coleg: “Pan wnes i ddarganfod fy mod wedi cael fy newis i chwarae dros fy ngwlad ac ennill fy nghap cyntaf, roeddwn i mewn sioc. Rydw i wedi bod yn chwarae pêl-droed ers yn bedair oed a dyma’r uchafbwynt heb os.”

Mae Cian yn chwarae fel asgellwr i CPD Porthmadog yng nghynghrair JD Gogledd Cymru.

Mae hon yn gamp i Cian, gan mai ychydig sy’n cael eu dewis i dîm Ysgolion a Cholegau Cymru. Mae’r broses yn gystadleuol iawn, gyda channoedd o fyfyrwyr a disgyblion yn cystadlu am le pob blwyddyn.

Dywedodd Marius Jones, Rheolwr Maes Rhaglen Adeiladu a Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: "Mae'r adran a'r coleg cyfan yn falch iawn o gyflawniad Cian. Mae cael eich dewis i gynrychioli eich gwlad yn gamp fawr. Mae Cian yn fyfyriwr sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'w waith coleg, ac yn amlwg, yn gwbl ymroddedig i bêl-droed - da iawn!"