Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dathlu dros 50 mlynedd o wirfoddoli

Mae dau aelod o dîm Arlwyo a Lletygarwch Coleg Llandrillo yn dathlu dros 50 mlynedd o wirfoddoli rhyngddynt.

Mae Sue Hughes a Wendy Mylchreest yn gweithio ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos ac maen nhw wedi treulio llawer o'u hamser yn cefnogi sefydliadau elusennol gwahanol.

Technegydd cegin ydy Sue Hughes, sydd yn dod yn wreiddiol o'r Rhyl, ac mae hi wedi gweithio yn y coleg ers dros ddeng mlynedd. Mae hi wedi gwirfoddoli i Rainbows ers 34 o flynyddoedd yn ardal y Rhyl. Rainbows ydy adran ieuengaf Girlguiding yn y DU - i blant rhwng 5 a 7 oed.

Mae Sue ac aelodau o Grŵp Rainbows y Rhyl wedi bod yn cefnogi nifer o elusennau dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys Sightsavers, Guide Dogs for the Blind a'r Lleng Prydeinig Brenhinol

Diddordeb mawr arall Sue ydy'r eglwys. Mae hi'n rhan o brosiect gyda phlant yn ardal y genhadaeth leol. Dyma bartneriaeth rhwng nifer o eglwysi sy'n cydweithio yn ardaloedd difreintiedig yn Y Rhyl, Tywyn, Bodelwyddan a Rhuddlan. Dros nifer o flynyddoedd, prif bwrpas y bartneriaeth oedd bwydo plant ysgol yn ystod gwyliau'r ysgol. Newidiodd hyn yn ddiweddar ar ôl i ymgyrch Marcus Rashford gael ei roi ar waith mewn ysgolion.

Rhoddodd gwirfoddolwyr wedyn flaenoriaeth i drefnu digwyddiadau i blant yn ystod gwyliau'r ysgol. Cyn y cyfnod clo, roedd y gwirfoddolwyr yn mynd allan at blant ac yn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau. Ers y cyfnod clo cyntaf maen nhw wedi bod yn dosbarthu bagiau mawr i blant yn cynnwys gweithgareddau i gyd-fynd â straeon, a melysion amrywiol.

Mae Wendy Mylechreest a anwyd yn Brighton ond sydd yn byw yn Llandudno ers 1969, wedi bod yn gweithio yn storfa'r coleg ers dros 30 mlynedd. Mae hi'n aelod brwd o gangen Llandudno o Lions Club International a hi oedd 'first Lady Lion of Llandudno' yn 2019. Roedd hi'n aelod o'r grŵp dros nifer o flynyddoedd cyn ennill y teitl hwn, yn ei geiriau hi mae hi'n 'dal i ruo'.

Cafodd ei hethol yn Ddirprwy Lywydd cangen Llandudno yn gynharach eleni. Mae'n ymdrech deuluol, ei gwr ydy'r Llywydd presennol. Y llywydd sy'n dewis pa achosion elusennol i'w cefnogi yn ystod ei gyfnod/chyfnod yn y swydd. Yr achosion a ddewiswyd eleni ydy diabetes, cŵn tywys, banciau bwyd ac elusennau lleol.

Ers dechrau'r pandemig mae'r Lions wedi bod yn codi pres yn Llandudno, yn bennaf drwy gefnogi elusennau lleol a banciau bwyd. Mae tri chafn llaeth mewn lleoliadau gwahanol yn y dref a gall pobl gyfrannu drwy roi arian ynddynt.

Roedd aelodau o'r gangen yn stiwardio yn y digwyddiad Honda Goldwings a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llandudno ac maen nhw'n gwerthu tocynnau raffl yn ystod y digwyddiad 'trochfa dydd San Steffan'. Mae siop Lions ar Stryd Madoc ac mae Wendy yn cynorthwyo gyda'r gwaith yno pan na fydd yn gweithio. Prynwyd dau ddiffibriliwr gwerth £1,000 yr un ar gyfer Trinity Centre a Chlwb Pêl-droed Llandudno yn ddiweddar.

Roedd Sue a Wendy yn awyddus iawn i bwysleisio mai rôl fach sydd ganddynt yn y gwaith pwysig hwn a bod y sefydliadau maen nhw'n perthyn iddynt bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr/aelodau.

www.gllm.ac.uk