Myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol yn codi arian at Blant mewn Angen!
Dydd Gwener, 19 Tachwedd, aeth myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Menai ati i drefnu a chymryd rhan mewn diwrnod codi arian at Blant mewn Angen.
Llwyddodd y myfyrwyr i hel £278 drwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys pobi a gwerthu cacennau, sioe dalent, raffl, bwth tynnu lluniau yn ogystal â chwis lle'r oedd y myfyrwyr yn herio'r tiwtoriaid.
Dywedodd Gwen Williams, Arweinydd Rhaglen Sgiliau Byw'n Annibynnol:
"Mae'r myfyrwyr wedi gwneud gwaith ardderchog i godi cymaint o arian ar gyfer Plant mewn Angen. Roedd yn ddiwrnod gwych ac mi gafodd pawb amser wrth eu bodd yn cymryd rhan!"