Taith gerdded o Bwllheli i Lanbedrog yn codi £600 i Blant mewn Angen
Mae myfyrwyr ar ein cwrs Gofal Plant ym Mhwllheli wedi cwblhau taith gerdded noddedig o’r Coleg i Lanbedrog er mwyn codi arian i Blant mewn Angen.
Mae’r myfyrwyr wedi llwyddo casglu £600 tuag at yr elusen. Apêl elusennol flynyddol Prydeinig ydy Plant Mewn Angen ac fe'i trefnir gan y BBC. Pob blwyddyn ers 1980, mae'r BBC wedi neilltuo un noson o raglenni ar ei brif sianel, BBC 1, ar gyfer dangos digwyddiadau wedi'u hanelu at godi arian.
Dywedodd Jane Sharp, darlithydd ar y cwrs Gofal Plant ar gampws Pwllheli.
“Mae’r adran Gofal Plant yma ym Mhwllheli yn falch iawn o ymdrech ein myfyrwyr. Mae dod o hyd i amser yng nghanol eu hastudiaethau i gwblhau sialens fel hyn yn anodd, ond yn dangos ymroddiad y myfyrwyr i achos hynod o bwysig.”