Peirianwyr y Dyfodol ar y Cledrau
Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau peirianneg ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli ar ymweliad i weithdy'r rheilffordd, Boston Lodge, prif weithdy Cwmni Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri.
Yn ystod yr ymweliad, dangoswyd y gwaith peirianyddol mawr sy'n digwydd yn Boston Lodge, Porthmadog i ddisgyblion ysgol o Ysgol Eifionydd, Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog sy'n dilyn y cwrs Lefel 1 'Gwneud Gwaith Peirianneg'.
Manteisiodd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau llawn amser Lefel 2 mewn Peirianneg a chyrsiau Lefel 3 mewn Peirianneg Forol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar y cyfle i ymweld â'r gweithdy hefyd. Dangoswyd cwch rheilffordd i'r myfyrwyr, ac yna aethant ar daith hynod ddiddorol o amgylch y safle gyda rhai aelodau o staff i weld yr ystod eang o waith peirianyddol manwl a gyflawnir ar y safle.
Meddai Emlyn Evans, Darlithydd mewn Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor,
"Diolch i Erfyl a Dewi yn y Gweithdy Boston Works, a phob un o'r staff am y cyfle i weld gwaith bob dydd y gweithdy ym Mhorthmadog a'r adrannau Peirianneg, Arwyddion ac Isadeiledd sydd yn cadw'r rheilffordd i fynd yn hwylus".
"Edrychwn ymlaen at ein hymweliad nesaf!"