Myfyriwr Chwaraeon wedi ei dewis i Gynrychioli Gogledd Orllewin Cymru
Mae Cassie Ogilvy, sy’n astudio Chwaraeon yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wedi’i dewis i ymuno â charfan pêl-rwyd ‘North Wales Fury’.
Bydd y garfan yn cystadlu yng nghynghrair cenedlaethol Cymru, sy'n cynnwys chwe thîm cystadleuol wedi'u lleoli ledled Cymru
Mae Cassie hefyd yn aelod o dîm pêl-rwyd Colegau Cymru, a hi oedd enillydd ‘Tarian Goffa Robin Llŷr Evans’ yn seremoni wobrwyo Coleg Meirion-Dwyfor yn 2022.
Dywedodd Rhodri Scott, darlithydd Chwaraeon yng Ngholeg Meirion-Dwyfor,
"Mae hi wedi bod yn hynod o braf gweld llwyddiant Cassie, nid yn unig ar y cwrt pêl-rwyd ond hefyd yn y dosbarth. Mae hi'n rhoi 100% i bopeth. Mae'r llwyddiant diweddar yma'n mynd i fod yn brofiad anhygoel iddi, cael chwarae i dîm Gogledd Orllewin Cymru yn erbyn rhai o dimau a chwaraewyr gorau'r wlad"
Ychwanegodd,
“Cassie yw’r fyfyrwraig gyntaf o Goleg Meirion-Dwyfor i gael ei dewis, hi hefyd yw’r person ieuengaf erioed i chwarae i ‘North Wales Fury’, sy’n gosod ei llwyddiant anhygoel yn ei gyd-destun.”
Os ydych chi'n awyddus i ddilyn llwyddiant Cassie, beth am ddysgu mwy am ein cyrsiau Chwaraeon, drwy glicio ar y linc yma.