Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Yr angen cynyddol am nyrsys yn sbarduno dwy yn ôl i fyd addysg.

Yn ystod 2021 penderfynodd Sioned Roberts o Borthmadog a Lois Thomas o Finffordd ddilyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch gan fod galw cynyddol am nyrsys yng Nghymru.

Gyda ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod bron i 2000 o lefydd gweigion ar gyfer nyrsys yn y wlad, penderfynodd y ddwy ddod yn ôl i fyd addysg, am flwyddyn, er mwyn ehangu eu gorwelion a cheisio cael mynediad i gwrs gradd mewn nyrsio a bydwreigiaeth.

Dywedodd Lois Thomas.

“Er bod y cwrs wedi bod yn anodd ar adegau, a bod gweithio a chwblhau’r aseiniadau wedi bod yn heriol, dwi’n teimlo bod y cyfan werth yr ymdrech. Dwi wedi ennill hyder, ac wedi profi i fi fy hun fy mod i’n gallu gwneud yn dda mewn gwaith academaidd”

Wrth ddilyn y cwrs mynediad, bu Sioned yn gweithio fel Gofalwr Iechyd mewn cartref gofal a Lois yn gweithio fel cynorthwyydd optegol mewn optegydd lleol.

Yn ystod yr wythnosau nesaf mi fydd y ddwy yn cychwyn ar gwrs gradd Prifysgol mewn nyrsio.

Dywedodd Sioned Roberts

“Dwi’n falch fy mod i wedi gneud y cwrs ac yn wirioneddol edrych ymlaen at fynd i Brifysgol. Heb ddilyn y cwrs yma, fasa hyn heb ddigwydd”

Os hoffet ti ddilyn llwybr Sioned a Lois yn ôl i fyd addysg mae gennym le o hyd ar ein cwrs Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd) ym Mhwllheli.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch YMA