Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tîm Academi Rygbi Coleg Llandrillo'n Cyrraedd Rownd Derfynol Cymru yng Nghanolfan Principality

Bu ond y dim i dîm Academi Rygbi Coleg Llandrillo gipio'r gwpan yng ngêm derfynol cystadleuaeth flaenllaw a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.

Yn ystod y misoedd diwethaf, bu cryn ymgiprys i ganfod tîm rygbi gorau ysgolion a cholegau Cymru. Daeth hyn i benllanw ym mhencampwriaeth Ysgolion a Cholegau Cymru yn Stadiwm Principality, Caerdydd, gyda'r goreuon yn mynd ben-ben.

Ar ôl chwarae sawl gêm yn ystod yr hydref a dechrau'r gaeaf, llwyddodd tîm Coleg Llandrillo i fynd drwodd i gêm derfynol Bowlen Cynghrair Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru, gan chwarae yn erbyn tîm Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd sydd, dros y blynyddoedd, wedi cynhyrchu chwaraewyr fel Sam Warburton, Owen Lane a Christ Tshiunza. Wedi hanner cyntaf campus, yn y diwedd bu'n rhaid i dîm Llandrillo ildio 52-29.

Cydlynydd Academi Rygbi Coleg Llandrillo yw Andrew Williams, capten presennol RGC, a chyd-weithia ag Afon Bagshaw, un o chwaraewyr RGC a hyfforddwr tîm dan 18 yr academi.

Dywed Andrew Williams: "Roedd chwarae yn y ffeinal yn wobr i holl chwaraewyr yr academi sydd wedi colli 18 mis o rygbi yn sgil y pandemig. Ar ôl dechrau anodd i'r tymor, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf ac roedd yn wych gweld y chwaraewyr yn dangos eu doniau yn y Stadiwm Genedlaethol yng Nghaerdydd.

"Doedd y canlyniad ddim wrth ein bodd, ond roedd yn brofiad bythgofiadwy ac rwy'n falch o'r hyn mae'r chwaraewyr a'r staff ategol wedi'i gyflawni. Mi wnawn ein gorau i sicrhau cyfle gwych arall...we go again!”

Ychwanegodd capten Academi Rygbi Coleg Llandrillo, Gareth Parry: "Roedd y garfan yn falch o fod wedi cael y cyfle i chwarae yn y Principality; Yn bersonol, ro'n i'n falch iawn o gael fy newis yn gapten ein carfan. Roedd mam, dad a'm rhieni bedydd - a oedd wedi hedfan o Sbaen i wylio'r gêm - yn llawn balchder.

"Roedd yn gêm wych a oedd yn cynnwys dau hanner; yn yr hanner cyntaf, ni oedd yn rhagori, ond yn yr ail hanner, ymladdodd chwaraewyr yr Eglwys Newydd yn ddygn. Yn y diwedd, er i ni chwarae ein gorau glas, mi wnaethon nhw'n trechu. I Academi Rygbi Coleg Llandrillo, a roddodd y cyfle anhygoel yma i ni, mae'r clod am y cyfan."

Ar y diwrnod, roedd carfan Coleg Llandrillo'n cynnwys: Thomas Jarman; Owen Parry, Finnley Jones, Cain Jones, Reuben Lovatt; Tomos Hughes, Caio Parry; Gareth Parry, Brychan Jones, Patrick Nelson, Logan Jones, Elis Evans, Evren Ozbilen, Charlie Probert, Tal Taylor. Yr eilyddion oedd: Osian Burt, Emyr Jones, Ethan Say, Aran Thomas, Celt Roberts, Luke Jones, Sior Jones, Afan Jones, Gethin Williams.

Ers y gêm yng Nghaerdydd, mae wyth o chwaraewyr Academi Rygbi Coleg Llandrillo (Gareth Parry, Brychan Jones, Patrick Nelson, Elis Evans, Charlie Probert, Tal Taylor, Cain Jones a Gruffudd ab Ieuan) wedi'u gwahodd i ymuno â Charfan Meithrin Talentau Rygbi Cymru i rai dan 18 oed, ac mae pump ar hugain o ddysgwyr Academi Rygbi Coleg Llandrillo wedi cael eu dewis ar gyfer academi RGC i rai dan 18 oed.

Er mwyn datblygu myfyrwyr Academi Rygbi'r coleg, mae'r canlynol ar gael i ddysgwyr: 15 awr o rygbi ar eu hamserlen - tair sesiwn yr wythnos, gyda gemau ar ddydd Mercher; rhaglen ddwys cyn y tymor; pwyslais ar sgiliau craidd, sgiliau safle a sgiliau uned, yn ogystal â rheoli gemau a thactegau; dadansoddi unigolion a'r tîm, a chynlluniau datblygu ac asesu sgiliau craidd.

I gael rhagor o wybodaeth am rygbi, neu gyrsiau chwaraeon eraill, neu am leoedd yn un o academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai, ffoniwch dîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk