Dysgwyr yn codi bron i £600 ar gyfer Sŵ Mynydd Cymru
Cyflwynodd Chelsea Griffiths, un o naw dysgwr a gododd yr arian drwy feicio, cerdded a gwerthu danteithion amrywiol, siec i'r sw ym Mae Colwyn
Llwyddodd y dysgwyr sy'n oedolion o HWB Dinbych Grŵp Llandrillo Menai godi bron i £600 ar gyfer Sŵ Mynydd Cymru.
Aeth dysgwyr y cyrsiau Saesneg Sylfaenol a Mathemateg Sylfaenol ati i gerdded neu feicio 40 milltir ar felin draed a beic ymarfer - y pellter o Ddinbych i'r sw ym Mae Colwyn.
Fe wnaethon nhw hefyd werthu cacennau, melysion a chylchoedd allweddi wedi'u crosio yn niwrnod agored HWB Dinbych i godi rhagor o arian, yn ogystal â gwirfoddoli i gasglu sbwriel yn y sw.
Cyflwynodd Chelsea Griffiths siec am £596 i Sŵ Mynydd Cymru ddydd Gwener (18 Gorffennaf). Roedd hi'n un o naw dysgwr a helpodd i godi'r arian, ynghyd â thri aelod o staff ac un gweithiwr cymorth.
Dywedodd y darlithydd Dysgu Oedolion a Dysgu yn y Gymuned, Kristy Hayward: “Roedd y dysgwyr yn frwdfrydig iawn ynglŷn â gwirfoddoli a chodi arian ar gyfer Sŵ Mynydd Cymru. Fe wnaethon nhw wir fwynhau dysgu am y sw, a dywedodd y staff eu bod wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn. Roedd yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil iawn iddyn nhw.”
Meddai Michaella Brannan, Rheolwr Partneriaethau a Chodi Arian Sŵ Mynydd Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r dysgwyr a’r staff yng Ngrŵp Llandrillo Menai am eu brwdfrydedd a’u haelioni.
“Fel elusen, mae’r Sŵ yn dibynnu ar godi arian a derbyn rhoddion i barhau â’n gwaith cadwraeth ac addysg sy’n fuddiol i fywyd gwyllt a’r gymuned ehangach.
“Mae cael adnodd fel Sŵ Mynydd Cymru ar garreg ein drws yn rhywbeth arbennig iawn, ac mae’n ysbrydoledig gweld dysgwyr lleol yn cymryd rhan ac yn cydnabod gwerth gwarchod a dathlu natur yn agos at adref ac ar draws y byd.”
Hoffech chi astudio i ddatblygu sgiliau newydd, ennill cymwysterau, neu ddilyn diddordeb? Mae 'Potensial', sef brand dysgu gydol oes Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a chyfleoedd yn sir Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn. Dysgwch ragor yma.