Conwy yn derbyn ei 'Plac Porffor' cyntaf diolch i ddarlithydd o Goleg Llandrillo
Enwebwyd Ethel Hovey, ymgyrchydd arloesol dros hawliau merched, ar gyfer un o'r placiau, sy'n dathlu merched nodedig yn hanes Cymru, gan Gemma Campbell
Mae Gemma Campbell, sy'n ddarlithydd yng Ngholeg Llandrillo, wedi bod yn allweddol i gael y 'Plac Porffor' sy'n dathlu merched nodedig yng Nghymru, cyntaf i Gonwy.
Cafodd ymgyrch y Placiau Porffor ei chreu i gydnabod cyflawniadau a chadarnhau gwaddol merched yn hanes Cymru.
Enwebodd Gemma yr ymgyrchydd dros famolaeth, y gwleidydd a'r ynad heddwch Ethel Hovey, dynes arloesol ond anhysbys i raddau helaeth, yn dilyn ei hymchwil helaeth ei hun.
Yn ddiweddar datgelwyd plac yn coffáu Miss Hovey ym Mae Colwyn, ar safle Nant y Glyn, y cartref mamolaeth a sefydlodd ym 1938.
Mae Gemma, darlithydd Saesneg yn Chweched Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, wedi ymchwilio i yrfa Ethel drwy gofnodion y cyngor lleol a thoriadau papur newydd o'r cyfnod.
Meddai: “Mi gymerodd 40 mlynedd iddi, ond agor y cartref mamolaeth oedd ei gwaith oes. Ymhell cyn i eraill wneud hynny, roedd hi'n cydnabod bod merched yn marw wrth roi genedigaeth pan fo pethau y gellid eu gwneud i atal hyn. Treuliodd amser yn ceisio sefydlu clinigau a chael cyflogau i fydwragedd.
“Yn 1938, daeth o hyd i ddau adeilad addas ar gyfer y cartref mamolaeth a threfnodd fenthyciadau gan y bwrdd iechyd i'w hariannu. Ar y pryd doedd ei chyd-gynghorwyr gwrywaidd ddim yn gweld yr angen, ond roedd hi'n ymwybodol iawn o frwydrau merched, ac roedd hi eisiau helpu. Roedd hi'n pwyso amdano oherwydd ei fod yn bwysig.”
Roedd Ethel yn hyrwyddo cyfleoedd i ferched ym meysydd iechyd, addysg, cerddoriaeth a gwleidyddiaeth - a hynny mewn cyfnod pan mai dim ond dynion oedd â'r hawl i bleidleisio.
Yn 1919 cafodd ei hethol i Gyngor Dosbarth Trefol Bae Colwyn, y ddynes gyntaf i wneud hynny. Aeth ymlaen i fod yn faer benywaidd gyntaf y dref (a'r gyntaf yng Ngogledd Cymru) ac yna'r Ynad Heddwch benywaidd gyntaf.
Cyflawnodd uchelgais ei bywyd pan agorodd Cartref Mamolaeth Nant y Glyn ym 1939. Bu ar agor tan ddiwedd y 1970au, a chredir bod y cartref wedi dylanwadu ar Aneurin Bevan i sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1946.
Dywedodd Sue Essex, cadeirydd y Placiau Porffor a chyn Weinidog yn Llywodraeth Cymru: “Mae'n hynod briodol ein bod yn anrhydeddu ymdrechion Ethel May Hovey ar adeg pan fo llywodraethau’n cael eu gwthio'n fwy nag erioed i ganolbwyntio ar iechyd merched.
“Credir bod cartref mamolaeth Ethel yn debygol o fod wedi bod yn un o’r modelau a ysbrydolodd Aneurin Bevan cyn iddo sefydlu ein Gwasanaeth Iechyd, felly, er bod ei hanes wedi mynd yn angof bron, rydym yn gobeithio y bydd dadorchuddio’r plac hwn yn cadarnhau ei dewrder a’i phenderfyniad yn y llyfrau hanes.”
Roedd Gemma'n bresennol yn seremoni ddadorchuddio'r plac, ynghyd â Chris Winchester, gor-or-nai Ethel Hovey.
Mae hi hefyd wedi curadu arddangosfa ar fywyd a gwaith Ethel yn Llyfrgell Bae Colwyn fel rhan o'i gwaith gyda changen Bwrdeistref Conwy o'r Gymdeithas Hanesyddol, y mae hi'n ei rhedeg ar y cyd â un o ddarlithwyr Hanes Coleg Llandrillo, Morgan Ditchburn.
Mae'r gangen wedi cynnal amrywiaeth o sgyrsiau, digwyddiadau a gweithgareddau ym Mae Colwyn i ddathlu pen-blwydd y dref yn 150 oed. Un o'r gweithgareddau hyn ydy Prosiect Hovey, menter sydd wedi'i hymgorffori yng nghwricwlwm Cynefin yr ysgolion lleol, sy'n annog myfyrwyr i ymddiddori yn eu treftadaeth leol.
Bydd yn parhau i chwarae rhan weithredol yn y dathliadau pen-blwydd gweddill y flwyddyn. Bydd y rhain yn cynnwys y Picnic Mawr ym mis Awst, mewn partneriaeth â Gyda'n Gilydd dros Fae Colwyn, a'r digwyddiadau Drysau Agored fydd ledled y sir ym mis Medi, yn ogystal â digwyddiad Nadolig y dref.
Mae'r gangen yn cyfarfod ar drydydd dydd Llun bob mis. Mae pynciau'r sgyrsiau sydd i ddod yn cynnwys rhai ar yr Archesgob dadleuol John Williams, a Chestyll Edwardaidd Gogledd Cymru. Cewch ragor o wybodaeth yma.
Ydych chi eisiau astudio cyrsiau Lefel A? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig mwy na 30 o gyrsiau yn ein canolfannau Chweched Dosbarth yn Nolgellau, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl. Dysgwch ragor yma.