Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyflwyno Gwobrau Dug Caeredin i Fyfyrwyr ag Anghenion Ychwanegol

Cyflwynwyd gwobrau Efydd ac Arian Dug Caeredin i grŵp o fyfyrwyr Coleg Llandrillo ag anghenion dysgu ychwanegol gan bennaeth y coleg yn ddiweddar, ar ôl iddynt gwblhau cyfres o dasgau heriol dros gyfnod o fisoedd.

Roedd y tîm anturus “wrth eu boddau” i dderbyn eu tystysgrifau swyddogol gan Lawrence Wood, pennaeth Coleg Llandrillo. Roedd y tasgau a gyflawnwyd yn amrywio o daith gerdded 26k ar hyd llwybr yr arfordir i gynllunio alldaith awyr agored i wersylla gwyllt!

Dyfarnwyd cyfuniad o wobrau dringo NICAS, gwobrau Efydd Dug Caeredin a gwobrau Arian Dug Caeredin i'r myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol - Osian Jones, Ally Evans, Lee Harvey a Jordan Mcdermot. ⁠ Mae'r myfyrwyr bellach yn gweithio tuag at y wobr Aur, a fydd yn cael ei chyflwyno iddynt ym Mhalas Buckingham yr haf hwn.

Dywedodd Osian ar y diwrnod: "Roedd yn brofiad gwych. Fy hoff ran oedd gwneud tân yn y gwersyll a chysgu mewn pabell."

Ychwanegodd Jane Myatt, Rheolwr Maes Rhaglen yr adran Sgiliau Byw'n Annibynnol: "Mae'r myfyrwyr wedi goresgyn nifer o rwystrau a phroblemau ac rydym yn hynod falch o'u cyflawniadau arbennig. Mae manteision dysgu yn yr awyr agored yn anfesuradwy. Mae'n wobr mor anodd ei chael hyd yn oed heb unrhyw anawsterau dysgu.

“Yn llythrennol, mae'r profiad wedi newid eu bywydau. Cawson nhw gyfle i ddarganfod diddordebau a thalentau newydd yn ogystal â datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd a gwaith. Mae'r gwobrau hyn yn brawf o'u cyflawniad, ac yn rai a gâi eu parchu gan gyflogwyr.”

Bellach mae adran Sgiliau Byw’n Annibynnol Coleg Llandrillo yn treulio un diwrnod yn wythnos yn paratoi ar gyfer gwobrau Dug Caeredin.

Meddai Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo: "Rydw i'n falch o gyflwyno’r gwobrau hyn i’r myfyrwyr. Mae wedi bod yn ymdrech ardderchog gan bawb a gymerodd ran; maen nhw'n glod i'r coleg.”

“Hoffwn ddymuno pob lwc iddyn nhw i gyd wrth weithio tuag at y wobr Aur, ac rydw i’n gobeithio ymuno â nhw ym Mhalas Buckingham!”

Gwobrau Dug Caeredin yw prif wobrau cyflawniad ieuenctid y byd, gyda dros 438,000 o bobl ifanc yn gweithio tuag at wobr yn y DU ar hyn o bryd. Sefydlwyd y gwobrau gan y Dug ei hun dros 60 mlynedd yn ôl. Fe’u cynlluniwyd i annog unrhyw un rhwng 14 a 24 oed i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau sy’n datblygu sgiliau fel arweinyddiaeth, dyfalbarhad, gwaith tîm a chyfathrebu.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk/ils

neu ffoniwch Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.⁠

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk