Canolfan Chwaraeon o'r Radd Flaenaf yn Agor yn Llangefni
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi agor eu hadeilad carbon Net-Sero cyntaf - sef canolfan chwaraeon newydd sbon o'r radd flaenaf - a ariennir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Cafodd y ‘Ganolfan Chwaraeon’ newydd sbon sydd wedi’i leoli ar gampws Coleg Menai yn Llangefni ei agor yn swyddogol ddoe (dydd Iau, Ionawr 26) gan Weinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AS
Yn ystod yr agoriad swyddogol, a fynychwyd gan y chwaraewr rygbi enwog Shane Williams, cafodd sefydliadau a phartneriaid daith o amgylch y ganolfan, a chael gweld drostynt eu hunain sut bydd y dysgwyr yn elwa o'r cyfleusterau newydd.
Derbyniwyd cefnogaeth gwerth £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru, drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy’r Llywodraeth ar gyfer y datblygiad, fydd yn anelu at drawsnewid profiad dysgu’r dysgwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth gyda'r technoleg a'r cyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r ganolfan, a adeiladwyd gan gwmni Read Construction o Ogledd Cymru ar amser ac o fewn cyllideb, yn cynnwys neuadd chwaraeon newydd sbon, campfa a stiwdio fawr, cyfleusterau newid, 7 ystafell ddosbarth, labordai ac ystafelloedd staff.
Mae’r ganolfan wedi ei chynllunio a’i hadeiladu yn gynaliadwy, ac mae hi wedi ei hardystio’n ffurfiol fel adeilad‘BREEAM Ardderchog’ – gan ei gosod ymhlith y 10% uchaf o adeiladau yn y DU o ran perfformiad amgylcheddol.
Mae'r ganolfan yn cynnwys llawer o elfennau cynaliadwy, gan gynnwys paneli ffotofoltäig ar yr adeilad, fydd yn darparu 343kWp o drydan.
Y ganolfan newydd felly fydd yr adeilad Di-Garbon Net cyntaf i'w adeiladu gan y Grŵp - sydd yn ateb gofynion a chanllawiau cynaliadwyedd diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Mi fydd y ganolfan newydd yn gartref i'r dechnoleg a'r offer diweddaraf ar gyfer monitro perfformiad a rhagoriaeth chwaraeon, gan gynnwys beiciau wat, peiriannau Seca i ddarparu dadansoddiad cyfansoddiad corff llawn gradd feddygol, a melin draed arbenigol yn cynnwys system dadansoddi bagiau nwy Douglas i asesu Vo2max.
Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles,
“Rwy’n falch o agor Canolfan Chwaraeon newydd Llangefni yn swyddogol, gyda chefnogaeth dros £4m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
“Fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl ‘ail gyfle’ – lle y gall pawb gyrraedd eu llawn botensial. Mae cyfleusterau fel hyn wrth galon cefnogi’r ethos hwn ar gyfer dysgwyr o bob oed yng Nghymru. Mae’n dda clywed mai’r uchelgais yn y dyfodol yw ehangu defnydd y ganolfan i bawb yn y gymuned leol.”
Eglurodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction,
“Roedd cwmni Read yn falch iawn o weithio gyda’r coleg at y prosiect modern, carbon isel hwn. Mae’r bartneriaeth yma wedi arwain at brosiect mawreddog sydd wedi ennill dyfarniad EPC A+. Rydym wedi llwyddo i ail-fuddsoddi’r bunt Gymraeg yn y broses drwy weithio gyda chwmniau lleol yn y gobaith o gefnogi cenhedlaethau’r dyfodol”
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,
“Mae cwblhau Canolfan Chwaraeon newydd Coleg Menai yn gam mawr arall ymlaen yn strategaeth ystadau uchelgeisiol y Grŵp. Bydd y ganolfan yn cynhyrchu pobl ifanc medrus ar gyfer y diwydiannau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, megis yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân.
Bydd myfyrwyr o bob rhan o'r campws hefyd yn gallu elwa o'r adnoddau drwy ddefnyddio cyfleusterau newydd y Gampfa; rhan hanfodol o’n strategaeth lles dysgwyr”.