Cyflwyno Cyfleoedd Gyrfa ym Maes Lletygarwch a Hamdden i Ddisgyblion Ysgol
Aeth disgyblion o Ysgol Godre'r Berwyn i Bala Lake Hotel yn ddiweddar i gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig.
Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan Goleg Meirion-Dwyfor, Gyrfa Cymru, Canolfan yr Urdd, Glan-llyn a Bala Lake Hotel ac roedd yn llawn gweithgareddau treiddgar a rhyngweithiol.
Cyflwynwyd dosbarth meistr ar gyflwyno bwyd gan Brif Gogydd y Gwesty ac fe gawson eu tywys o amgylch y gwesty a'r spa. Trefnwyd sesiwn adeiladu tîm i'r disgyblion dan arweiniad Myfyrwyr Cyrsiau Awyr Agored Coleg Meirion-Dwyfor a'r Urdd.
Pwrpas yr ymweliad oedd arddangos y gwahanol lwybrau gyrfaol sydd ar gael yn lleol i bobl ifanc ym maes lletygarwch ac arlwyo. Siaradodd Huw Symonds o Wersyll Glan-Llyn ac Elain Russell o Bala Lake Hotel am eu profiadau a'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu wrth weithio yn y diwydiant.
Meddai Sam Baker, Cynghorydd Ymgysylltu â Busnes gyda Gyrfa Cymru,
"Mae nifer o gyfleoedd gyrfa cyffroes ar gael yn y diwydiant Lletygarwch a Thwristiaeth, ac roedd y digwyddiad a gynhaliwyd yn Bala Lake Hotel yn gyfle ardderchog i arddangos yr ystod eang ohonynt sydd ar gael yn lleol."
Dywedodd Elaine Russell, Rheolwr Cyffredinol Bala Lake Hotel,
"Roedd hi'n bleser cynnal y digwyddiad yma yn Bala Lake Hotel. Rwy'n gobeithio bod y digwyddiad wedi tynnu sylw at y gyrfaoedd gwych sydd ar gael yn lleol yng Ngogledd Cymru."
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda Gyrfa Cymru a'r Coleg yn y dyfodol."
Ychwanegodd Eifion Owen, Rheolwr Maes Rhaglen yng Ngholeg Meirion Dwyfor,
"Rydym yn hynod ddiolchgar i Bala Lake Hotel, Gyrfa Cymru a'r Urdd am gynnal digwyddiad mor llwyddiannus."
"Mae cryn alw am waith ym maes Lletygarwch a'r diwydiant Gwasanaethau yn y rhan yma o'r wlad. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc weld bod gyrfa dda ar gael yn lleol."
"Baswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y diwydiant i bori drwy'r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Meirion-Dwyfor".