Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Defaid Llyn yn ymweld a Choleg Glynllifon.

Fel rhan o benwythnos Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Defaid Llyn, daeth aelodau o’r gymdeithas ar ymweliad a Choleg Glynllifon. Pwrpas yr ymweliad oedd i ddysgu mwy am ddatblygiadau cyffrous newydd yn y coleg.

Daeth aelodau o bell ac agos at eu gilydd yn ystod penwythnos 21,22,23 o Hydref i Westy’r Victoria yn Llanberis i drafod gwaith y gymdeithas, ac i ddysgu mwy am y brid hynod yma o ddefaid.

Mae’r defaid yn hanu’n wreiddiol o adran Sarn Mellteyrn, Llyn. Maent yn hawdd i'w trin, yn epilgar gyda greddf mamol arbennig, yn llaethog heb gael ei gorfwydo. Mae'r defaid Llyn yn gallu intigreiddio yn naturiol i amryw o sefyllfaoedd ac yn addas i ucheldir yn ogystal a'r iseldir.

Dywedodd Rhodri Manod Owen, Rheolwr Fferm Glynllifon.

“Pleser oedd cael croesawu aelodau Cymdeithas Defaid Llyn i’r coleg, o Gymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon. Mae ein praidd o ddefaid Llyn yma yn y coleg wedi hen sefydlu erbyn hyn ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol iawn gyda’r praidd yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ein gobaith ydi defnyddio llaeth y praidd, mae llaeth defaid yn cynnwys tua dwbl ac mewn rhai achosion llawer mwy na dwbl y swm o solidau a geir mewn llaeth gafr a llaeth buwch. Llaeth defaid yw'r llaeth mwyaf maethlon sydd ar werth yn y byd heddiw.”

Ychwanegodd

“Mae'n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu caws gan ei fod yn cynnwys dwywaith cymaint o solidau o'i gymharu â llaeth buwch neu gafr. Defnyddir deg litr o laeth buwch i wneud 1 kg o gaws gouda, dim ond pum litr o laeth defaid a ddefnyddir. Mae’r posibiliadau i ni fel coleg yn y maes hwn yn gyffrous iawn. Ac yn ôl ymchwil diweddar, mae’r brid defaid Llyn gyda’r gorau drwy’r holl fyd a’r gyfer y math yma o amaethu.”

Gyda cynnydd sylweddol yn y farchnad am laeth defaid, gyda gwledydd fel Tsieina yn mewnforio oddeutu £700 miliwn o laeth defaid yn 2021, mae’r farchnad yn un sydd yn tyfu’n sylweddol, blwyddyn a’r ôl blwyddyn.

Dywedodd Rhodri Manod Owen, Rheolwr Fferm Glynllifon.

“Mae Cymru’n cael ei chydnabod ar draws y byd am ei defaid, a’i chynnyrch megis gwlân a chig oen. Rydym felly mewn sefyllfa hynod o dda i fedru manteision llawn ar y farchnad llaeth defaid, ac mae’r Coleg oherwydd hynny’n edrych ymlaen i wireddu’r syniadau hyn yn ystod y blynyddoedd nesaf.”

Cyn i aelodau’r Gymdeithas symud yn eu blaenau am ginio i Aberdaron, ac am daith o gwmpas Pen Llyn, cafwyd cyfle i flasu rhai o gawsiau llaeth o Gymru,