Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Gwerthu Crefftau Nadolig o Waith Llaw mewn Marchnad Nadolig Awyr Agored

Gwnaeth dros 100 o fyfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Llandrillo - ynghyd â staff a myfyrwyr o sawl adran arall greu gŵyl y gaeaf heddiw, gan gynnal eu marchnad Nadolig diwedd blwyddyn tu allan ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg.

Roedd y staff a'r myfyrwyr yn falch o'r cyfle i gael bargen neu ddwy o waith llaw cyn yr Ŵyl wrth iddynt grwydro o gwmpas sawl stondin marchnad awyr agored....wedi eu cynnal mewn arddull Ewropeaidd traddodiadol!

Treuliodd criw o fyfyrwyr SBA - sydd ag amrywiaeth o anableddau dysgu - wythnosau'n paratoi at y digwyddiad. Bydd yr holl arian a godwyd yn mynd at elusen y coleg eleni, Shelter Cymru.

Cyn y digwyddiad, defnyddiodd y myfyrwyr eu sgiliau i uwchgylchu detholiad o eitemau pren a nwyddau cyffredinol y cartref gan wneud iddynt edrych yn dymhorol i'w gwerthu ar y dydd, gan gynnwys addurniadau, gonks, conau coed pin sgleiniog, torchau a llieiniau cul ar gyfer y Nadolig. Mi wnaethon nhw hefyd redeg tombola a stondin raffl.

Gwerthodd y myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo ddetholiad o ddanteithion yr ŵyl gan gynnwys pwdinau Nadolig a mins peis i enwi ond ychydig. Roedd yr adrannau eraill oedd a stondinau eleni yn cynnwys Llwybrau i Adeiladu, Celf a Dylunio a Gwallt a Harddwch.

Dywedodd Rheolwr y Maes Rhaglen Sgiliau Byw Annibynnol, Jane Myatt: "Hoffwn ddiolch i'r holl fyfyrwyr a staff am eu cefnogaeth. Rydym yn eithriadol o falch o'n myfyrwyr am y gwaith caled yn arwain at y farchnad ac yn ystod y dydd ei hun. Mi wnaethon nhw wir fwynhau gwerthu eu creadigaethau i staff a myfyrwyr fel ei gilydd."

Gwefan: www.gllm.ac.uk