Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Gwerthu Crefftau Nadolig o Waith Llaw mewn Marchnad Nadolig awyr Agored

Gwnaeth dros 100 o fyfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol a Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo greu gŵyl y gaeaf yn ddiweddar, gan gynnal eu marchnad Nadolig diwedd blwyddyn tu allan ar gampws Llandrillo-yn-rhos y coleg.

Roedd y staff a'r myfyrwyr yn falch o'r cyfle i gael bargen neu ddwy cyn yr Ŵyl wrth iddynt grwydro o gwmpas sawl stondin marchnad awyr agored....wedi eu cynnal mewn arddull Ewropeaidd traddodiadol! Agorodd Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo'r ŵyl yn swyddogol.

O ganlyniad i gyfnod parhaus o dywydd anffafriol, bu'n rhaid i ofalwyr y coleg ddechrau codi'r farchnad am 6am ar y diwrnod ei hun! Ymunwyd a'r myfyrwyr gan ddisgyblion ar raglen gyswllt ysgolion y coleg: roedd ysgolion a gynhwyswyd yn y fenter bartneriaeth yn cynnwys Ysgol y Gogarth yn Llandudno ac Ysgol Bryn Elian ym Mae Colwyn.

Treuliodd criw o fyfyrwyr SBA - sydd ag amrywiaeth o anableddau dysgu - wythnosau'n paratoi at y digwyddiad. Bydd yr holl arian a godwyd yn mynd at elusen.

Cyn y digwyddiad, defnyddiodd y myfyrwyr eu sgiliau gwaith coed i ailgylchu ac uwchgylchu detholiad o eitemau pren a nwyddau cyffredinol y cartref gan wneud iddynt edrych yn Nadoligaidd i'w gwerthu ar y dydd, gan gynnwys addurniadau, torchau a llieiniau bwrdd cul. Mi wnaethon nhw hefyd redeg tombola a stondin raffl.

Gwerthodd y myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo ddetholiad o ddanteithion yr ŵyl gan gynnwys pwdinau Nadolig a mins peis i enwi ond ychydig.

Dywedodd Rheolwr y Maes Rhaglen Sgiliau Byw Annibynnol, Jane Myatt: "Rydym yn eithriadol o falch o'n myfyrwyr am y gwaith caled yn arwain at y farchnad ac yn ystod y dydd ei hun. Mi wnaethon nhw wir fwynhau gwerthu eu creadigaethau i staff a myfyrwyr fel ei gilydd, gan godi cannoedd o bunnoedd ar gyfer elusen yn y broses."

Meddai Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo: "Dyma ymdrech ardderchog gan ein staff a'n myfyrwyr sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy'r tymor. Alla i ddim meddwl am ffordd well o ddechrau ar gyfnod y Nadolig."

Gwefan: www.gllm.ac.uk