Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan Chwaraeon yn hwb mawr i ddysgwyr, medd AS Môn

Ddydd Gwener (10 Rhagfyr) ymwelodd AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, â safle cyfleuster hyfforddi gwyddor chwaraeon newydd gwerth £6.3m ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.

Ariannwyd y prosiect trwy raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys neuadd chwaraeon newydd, campfa fawr, ystafelloedd newid, 7 ystafell ddysgu ar gyfer y Gwyddorau Chwaraeon, labordai chwaraeon, ystafelloedd staff a storfeydd.

Croesawodd Rhun ap Iorwerth AS y datblygiad, gan ddweud y bydd yn hwb mawr i ddysgwyr y dyfodol. Meddai: "Mae'r Ganolfan Chwaraeon yn ychwanegiad trawiadol iawn at y ddarpariaeth addysg bellach ardderchog sydd eisoes ar gael yn Llangefni.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc adnoddau dysgu o'r radd flaenaf er mwyn cefnogi eu haddysg yma ar Ynys Môn. Yn y pendraw, bydd hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa gref i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym maes chwaraeon a sectorau cysylltiol.

"Hoffwn longyfarch Grŵp Llandrillo Menai ar barhau i fuddsoddi i wella'r cyfleusterau a'r cyfleoedd ar eu campws yn Llangefni. Edrychaf ymlaen yn fawr at ymweld â'r Ganolfan newydd eto pan fydd wedi'i chwblhau."

Meddai Aled Jones-Griffiths, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor: “Mae'r Ganolfan Chwaraeon yn gam mawr arall tuag at greu hwb addysg a hyfforddiant rhanbarthol bwysig yn Llangefni. Yn dilyn y datblygiad hwn, byddwn wedi buddsoddi ymhell dros £40m yn y campws dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Bydd y ganolfan chwaraeon newydd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ac offer ar gyfer monitro perfformiad athletig. Bydd yn adnodd digymar ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio pynciau ym maes Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.”

"Rydym yn ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth AS am gymryd yr amser i gwrdd â ni i ddysgu mwy am y datblygiad cyffrous hwn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am helpu i ariannu'r prosiect."

Cychwynnodd y gwaith adeiladu ar y safle yn ddiweddar yn dilyn dyfarnu cytundeb sylweddol i gwmni READ Construction. Disgwylir i'r ganolfan newydd fod yn barod ac ar agor i fyfyrwyr erbyn dechrau 2023.

Meddai Cyfarwyddwr READ Construction, Alex Read: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai ar y prosiect hwn. Fe fydd yn creu amgylchedd dysgu modern ac yn dod â budd i fyfyrwyr am nifer fawr o flynyddoedd. Trwy'r broses adeiladu, rydym yn cynnig gwerth ychwanegol i fyfyrwyr presennol trwy gynnig lleoliadau gwaith ac ymweliadau safle fel y gallant gael profiad uniongyrchol o'r diwydiant adeiladu.”