Myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn Trefnu Rhoddion Mawr eu Hangen ar gyfer Banciau Bwyd
Mae myfyrwyr Sgiliau Byw Annibynnol Coleg Llandrillo wedi bod yn cymryd amser allan o'u hastudiaethau i drefnu menter "12 Diwrnod y Nadolig", gan annog staff i roi ystod o nwyddau sydd â galw mawr amdanynt ar gyfer dau fanc bwyd lleol, gan gynnwys nwyddau tun, bwyd i anifeiliaid anwes a nwyddau ystafell ymolchi, yn ogystal â rhai danteithion Nadolig!
Bydd yr holl roddion a gasglwyd ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg yn cael eu gollwng yn y ddau fanc bwyd sy'n elwa: Banc Bwyd Conwy a TY Hapus yn Llandudno.
Mi wnaeth y myfyrwyr Astudiaethau Cyn-Alwedigaethol a Pharatoi ar gyfer Addysg Bellach, sydd i gyd ag anghenion dysgu ychwanegol, drefnu'r prosiect fel rhan o'u huned BTEC. Penderfynasant ar y cyd ar y fenter hon er mwyn cefnogi eu cymunedau lleol yn ystod tymor y dathlu.
Dywedodd y tiwtor Helen Chambers: "Gai fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n myfyrwyr a'r holl staff am eu rhoddion caredig. Dwi'n siwr y byddant o fudd i lawer o deuluoedd yn ein cymunedau lleol yn ystod y tymor dathlu hwn."
Mae'r rhoddion y gofynnwyd amdanynt yn cynnwys: cawl; pasta a reis; diodydd meddal; bwyd i anifeiliaid anwes; llysiau tun; nwyddau ymolchi gan gynnwys eitemau ar gyfer mislif; coffi, te a siwgr; cynnyrch ar gyfer babanod; ffrwythau tun a phwdinau; a theganau bychain a llenwyr hosan.
Mae adran SBA Coleg Llandrillo yn cynnal nifer o gyrsiau sydd wedi’u teilwra yn arbennig i ddiwallu anghenion myfyrwyr sydd ag anableddau dysgu bach i gymedrol, anableddau dysgu difrifol ac anhwylderau ymddygiadol cymdeithasol ac emosiynol.