Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo a Betsi Cadwaladr yn cynnal digwyddiad dathlu ar gyfer rhaglen Addysg Uwch Ymarfer Gofal Iechyd

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Venue Cymru yn ddiweddar wedi ei gynnal i ddathlu cyflawniadau academaidd 111 o weithwyr cymorth gofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCHUHB).

Yn cyflwyno i'r myfyrwyr roedd Jo Whitehead, Prif Swyddog Gweithredol yn Betsi Cadwaladr ac Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer Betsi Cadwaladr.

Cwblhaodd y gweithwyr cymorth gofal iechyd Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Arferion Gofal Iechyd ar ôl blwyddyn o ddod i Goleg Llandrillo un diwrnod yr wythnos, dros un flwyddyn gyda chefnogaeth eu cyflogwr gofal iechyd.

Y digwyddiad dathlu oedd y digwyddiad cyntaf mewn 3 blynedd ers Tachwedd 2019, oherwydd y pandemig Covid. Astudiodd yr holl raddedigion llwyddiannus yn ystod y pandemig gan weithio yr un pryd mewn lleoliadau gofal iechyd gan wneud eu cyflawniadau hyd yn oed yn fwy trawiadol.

Mae'r rhaglen yn datblygu lefelau gwybodaeth a sgiliau sy'n golygu y gall gweithwyr cefnogi gofal iechyd wneud cais am rolau amrywiol ac ychwanegu at eu cyfrifoldebau. Mae hefyd yn golygu y gallant gyflawni dyletswyddau lefel uwch yn eu swyddi ac ymateb i anghenion y bwrdd iechyd o ran gweithlu. Mae'r cwrs dwys yn cynnwys asesiad academaidd yn y coleg ac asesiad yn y gweithle gan staff clinigol GIG.

Datblygodd y rhaglen drwy bartneriaeth strategol cryf ac ymrwymedig rhwng Coleg Llandrillo, Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor, ac mae'n darparu'r potensial ar gyfer dilyniant yn uniongyrchol i ail flwyddyn y rhaglenni Bagloriaeth Nyrsio (BN) gyda'r darparwyr i'r brifysgol yn ardal Gogledd Cymru a thu hwnt. Dechreuodd y cwrs yn 2013 gyda 12 myfyriwr ac mae'r niferoedd wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ers hynny. Bydd dros 100 o weithwyr cymorth gofal iechyd sydd wedi eu secondio yn cael eu cofrestru yn ystod y flwyddyn Academaidd 2022-23.

Dywedodd Angela Wood, "Roedd yn anrhydedd i fynychu a dathlu'r diwrnod gyda'r myfyrwyr a'u gwesteion. Roedd y diwrnod yn cofnodi cwblhau siwrne o waith caled ac ymrwymiad gan y myfyrwyr y ogystal â'r bartneriaeth lwyddiannus rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a'r Bwrdd Iechyd. Roeddwn yn falch iawn i gyd-gyflwyno'r tystysgrifau a hoffwn ddymuno i'r gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yrfa sy'n rhoi boddhad mewn gofal iechyd."


Derbyniodd y rhaglen gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru) ac oherwydd hynny mae modd i'r rhai sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus wneud cais i ddilyn cyrsiau BN rhan amser, i astudio i ddod yn ymarferwyr Nyrsio wedi eu cymhwyso'n llawn, a chadw eu swyddi cymorth gofal iechyd gyda'r bwrdd iechyd. Canlyniad hyn i gyd yw bod llwybr gyrfa gwirioneddol ar gael yng Ngogledd Cymru ar gyfer y rhai sydd eisiau symud ymlaen o waith cymorth gofal iechyd i gymwysterau clinigol llawn mewn Nyrsio.

Dywedodd Dr Paul Bevan, Uwch Gyfarwyddwr yn Grŵp Llandrillo Menai "Bu gweld cynifer o ymarferwyr mor llawn cymhelliant a phroffesiynol yn croesi'r llwyfan i'w cydnabod am eu cyflawniadau yn bleser pur. Mae eu llwyddiant yn destament i'r cyd weithio agos rhwng tîm academaidd Coleg Llandrillo a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad o bartneriaethau cydweithredol sydd yn greiddiol i'n ffordd o weithio gyda chyflogwyr yn Grwp Llandrillo Menai.

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yn y digwyddiad oedd y myfyrwyr oedd wedi cyflawni a mentoriaid man gwaith ochr yn ochr gydag uwch arweinwyr yn y bwrdd iechyd, Addysg Iechyd a Gwelliant Cymru a staff o’r bwrdd iechyd, y brifysgol a’r coleg oedd yn gysylltiedig gyda'r rhaglen.

Roedd cyflwynwyr yn cynnwys Jo Whitehead, Angela Wood, Dr Paul Bevan a'r graddedigion Tystysgrif Lefel 4 Addysg Uwch mewn Arferion Gofal Iechyd Kayne Barber a Linda Brown.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai cliciwch yma.