Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arddangosfa Myfyrwyr Cyrsiau Ffotograffiaeth yn Oriel Colwyn

Mae chwech o fyfyrwyr Celf Coleg Llandrillo yn arddangos eu gwaith ar hyn o bryd yn Oriel Colwyn, Bae Colwyn.

Bob blwyddyn, mae'r galeri ffotograffiaeth yn manteisio ar y cyfle i gefnogi ac arddangos arddangosfa grŵp terfynol y myfyrwyr sy'n cwblhau cyrsiau FdA a BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo.

Mae arddangosfa eleni, o’r enw ‘SONDER’, yn cynnwys gwaith gan chwe myfyriwr: Anthony Harrison, Thomas Wyn Jones, Sophie Beddow, Connor Williams, Kev Curtis, a Hari Cenin Roberts.

⁠Mae mynediad i'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac mi fydd agor hyd at 31 Mai.

⁠Eglurodd Tim Williams, darlithydd Celf a Dylunio yng Ngholeg Llandrillo:

"Mae'r sioe derfynol eleni yn cydnabod unigoliaeth y myfyrwyr ac amrywiaeth eu prosiectau. Mae pob myfyriwr wedi archwilio llwybr personol iawn ac wrth weld eu gwaith ochr yn ochr wedi'i arddangos mewn oriel mor anrhydeddus ag Oriel Conwy, rydym yn gallu gwerthfawrogi eu dawn ac ansawdd y gwaith."

"Hoffwn longyfarch bob un ohonynt ar eu llwyddiant ac edrychaf ymlaen at weld i ble bydd Celf yn eu harwain yn y dyfodol."

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth yn y coleg, cliciwch yma.