Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Gweddnewid Caffi Hafan

Fel rhan o'r rhaglen Prosiect Pum Mil ar S4C gwirfoddolodd myfyrwyr o adran Gelf Coleg Menai i adnewyddu caffi cymunedol poblogaidd

Ar y rhaglen ‘Prosiect Pum Mil’ ar S4C helpodd myfyrwyr celf Coleg Menai gyda'r gwaith o adnewyddu caffi cymunedol.

Gwirfoddolodd myfyrwyr o gyrsiau celf amrywiol ar gampws Parc Menai i helpu i beintio ac ailaddurno Caffi Hafan ym Mangor.

Ar Prosiect Pum Mil mae'r cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn cael cyllideb o £5,000 i fynd i'r afael â phrosiect cymunedol.

Maen nhw'n gofyn am gymorth gan bobl a busnesau lleol – a gofynnwyd i fyfyrwyr Coleg Menai helpu i beintio Caffi Hafan.

Cefnogir y caffi gan Age Cymru, ac fel mae’r enw’n awgrymu, mae’n hafan i bobl leol gael dod at ei gilydd i gymdeithasu.

Ond er bod Caffi Hafan yn darparu gwasanaeth gwerthfawr yn y gymuned, roedd mawr angen ei beintio – a dyna oedd cyfraniad y myfyrwyr.

Yn y bennod – sydd ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer ac S4C Clic – gwelir cyflwynwyr yn ymweld ag adran gelf y coleg ac mae peth o waith y myfyrwyr yn cael ei arddangos ar y sgrin.

Yna, ar y penwythnos daeth y myfyrwyr at ei gilydd yn fore a threulio dau ddiwrnod yn helpu gyda'r prosiect.

Cliriodd y myfyrwyr y caffi gan symud y dodrefn a thynnu'r lluniau oddi ar y waliau, cyn dechrau sandio'r byrddau a'r cadeiriau.

Fe wnaethon nhw beintio murluniau mawr lliwgar ar du allan y caffi i helpu i ddenu cwsmeriaid newydd, yn ogystal â rhoi gwedd newydd i'r tu allan trwy blannu blodau a pheintio arwyddion.

Ar ddiwedd y bennod mae'r gwylwyr yn cael gweld ymateb balch rheolwr y caffi, Meryl Williams a'i chwsmeriaid rheolaidd i weddnewidiad Caffi Hafan.

Meddai Paul Edwards, Rheolwr y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai: “Gofynnodd Prosiect Pum Mil i ni weithio gyda nhw i greu murlun ar gyfer yr adeilad.

“Mi ddaethon nhw i'r coleg i ffilmio cyflwyniad gyda'r myfyrwyr, ac yna gwirfoddolodd y myfyrwyr i gymryd rhan yn y rhaglen ar benwythnos y 15fed a'r 16eg o Ebrill.

“Roedd yn gyfle gwych i weithio ar brosiect gwerth chweil, ac fe wnaeth y myfyrwyr a gymerodd ran fwynhau'r profiad yn fawr. Roedd myfyrwyr cyrsiau Lefel 2, Lefel 3, Celf Sylfaen ac Addysg Uwch yn cymryd rhan, ac roedd yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn.”

I wylio Prosiect Pum Mil (Caffi Hafan, Bangor) ewch i BBC iPlayer neu S4C Clic.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio Celf a Dylunio yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.