Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn gwylio 'Stori Olivia' - ffilm bwerus am ddiogelwch ar y ffyrdd

Yn ystod Wythnos Llesiant ‘Cadw’n Ddiogel’ Grŵp Llandrillo Menai cafodd ffilm dorcalonnus yn adrodd hanes Olivia Alkir, 17 oed, ei dangos

Gwyliodd myfyrwyr ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai ffilm bwerus am ferch yn ei harddegau a gafodd ei lladd mewn damwain car.

Bu farw Olivia Alkir, o Efenechtyd ger Rhuthun, yn 2019 yn dilyn gwrthdrawiad a achoswyd gan ddau yrrwr ifanc yn rasio. Dim ond 17 oed oedd hi.

Mae ‘Stori Olivia’ yn ffilm dorcalonnus sy'n adrodd digwyddiadau'r ddamwain, lle cafodd dau o'i ffrindiau hefyd anafiadau a newidiodd eu bywydau.

Ers marwolaeth Olivia mae ei mam, Jo Alkir, wedi bod yn ymgyrchu dros osod blwch du yng nghar pob person ifanc i fonitro gyrru ac i geisio atal rhagor o drychinebau fel hyn.

Cynhyrchwyd ‘Stori Olivia’ fel rhan o'r ymgyrch honno, ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill.

Mae'r ffilm yn cynnwys lluniau dash-cam o gerbyd arall nad oedd yn rhan o'r ddamwain, yn ogystal â recordiadau o'r alwad 999, a chyfweliadau â rhieni a ffrindiau Olivia.

Cafodd ‘Stori Olivia’ ei dangos yr wythnos diwethaf fel rhan o Wythnos Llesiant ‘Cadw’n Ddiogel’ Grŵp Llandrillo Menai. Cafodd y ffilm ei dangos ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau a champws Coleg Menai yn Llangefni.

Ochr yn ochr â’r ffilm, cyflwynodd swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wers yn cynnwys trafodaeth ar y ‘5 Angheuol’ sef y prif ffactorau sy’n achosi gwrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd. Y 5 Angheuol yw:

  • Gyrru'n ddiofal a pheryglus
  • Yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau
  • Peidio â gwisgo gwregys diogelwch
  • Defnyddio ffôn symudol
  • Goryrru

Daeth nifer dda o fyfyrwyr o amrywiaeth eang o gyrsiau i'r sesiynau, gan gynnwys Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon, TG, Gwasanaethau Cyhoeddus, Safon Uwch ac Adeiladu.

Dywedodd Olivia Longman, sydd ar ail flwyddyn ei chwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Menai, Llangefni: “Mi wnaeth i mi sylweddoli pa mor hawdd mae damweiniau’n digwydd a dydyn ni ddim bob amser yn deall pa mor ddifrifol yw'r canlyniadau. Y tro nesaf y bydda i'n teithio mewn car rydw i am roi mwy o feddwl i bwy sy'n gyrru.”

A dywedodd Jason David Griffiths, myfyriwr blwyddyn gyntaf y cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel yn Llangefni: “Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol oherwydd roedd yn agor llygaid llawer o bobl ifanc i bwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd a pheryglon gyrru’n ddi-hid.”

Dywedodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai: “Mae mor bwysig fod y sesiwn yma'n cael ei chyflwyno i holl fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai.

“Yr wythnos hon, cyflwynodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ‘Stori Olivia’ i dros 400 o ddysgwyr ledled y Grŵp. Mae mor bwysig ein bod yn addysgu ein hunain ac yn bod mor ofalus â phosib wrth deithio mewn car, boed hynny fel teithwyr neu fel gyrwyr.

“O glywed yr hyn oedd gan y dysgwyr i'w ddweud am y sesiwn, mae'n amlwg iawn fod ‘Stori Olivia’ yn bwerus ac effeithiol.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf byddaf yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i drefnu dyddiadau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y gallwn gyflwyno’r neges rymus hon am ddiogelwch ffyrdd i fwy o ddysgwyr y Grŵp.

“Hoffwn ddiolch i’r holl staff a gymerodd ran am wneud yr wythnos yn llwyddiant mawr, ac yn enwedig i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.”

Dywedodd Pam Roberts, Rheolwr Gwylfa Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae cymryd rhan yn wythnos Llesiant Coleg Llandrillo yn ffordd wych i ni gysylltu â gyrwyr ifanc ar draws y rhanbarth.

“Dydi gwaith y gwasanaeth tân ac achub ddim yn unig yn golygu mynd i’r afael â thanau mewn tai – rydyn ni'n delio â llawer o wrthdrawiadau ar y ffyrdd ac yn gweithio’n ddiflino gydag asiantaethau eraill i helpu i addysgu gyrwyr am ganlyniadau angheuol posibl goryrru neu beidio â thalu sylw wrth yrru.

“Mae llawer o dystiolaeth bod gyrwyr ifanc 16-24 oed yn fwy tebygol o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd. Yng Nghymru, mae'r grŵp oedran hwn yn gyfrifol am 11 y cant o'r boblogaeth ond 22 y cant o'r holl anafiadau.

“Mae ein diolch yn fawr i Grŵp Llandrillo Menai am weithio gyda ni i helpu i addysgu gyrwyr ifanc ar draws gogledd Cymru.”

Dywedodd PC Jon Hewitt o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Stori Olivia yn wirioneddol dorcalonnus a nod y ffilm bwerus hon yw helpu i addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd cadw’n ddiogel ar y ffordd.

“Yn anffodus, mae gyrwyr ifanc yn llawer mwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiadau, yn aml oherwydd diffyg profiad a diffyg gwybodaeth am y risgiau. Mae’r ffilm hon yn targedu gyrwyr newydd a'r rhai sy'n dysgu gyrru a’r nod yw eu helpu i fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau ac o’r canlyniadau dinistriol a all ddigwydd.”

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn dychwelyd yn gynnar y flwyddyn nesaf i gyflwyno rhagor o sesiynau ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai. Ceir rhagor o fanylion am hyn dros yr wythnosau nesaf.

Mae ‘Stori Olivia’ yn cael ei dangos mewn colegau ac ysgolion i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ymhlith pobl ifanc, a chafodd ei ddangos hefyd yn y Senedd yn San Steffan yn gynharach eleni.

I gael rhagor o wybodaeth am ‘Stori Olivia’ a’r ymgyrch i osod blwch du yng nghar pob person ifanc, ewch i Olivia Alkir – In Olivia's memory