Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn Fyfyriwr Graddedig o Goleg Llandrillo wedi ei Enwi fel Datblygwr Clwb wedi Buddsoddiad o Bwys gan URC

Mae cyn-fyfyriwr graddedig o Goleg Llandrillo ymysg yr ychydig dethol i gael eu penodi fel datblygwyr clybiau gan Undeb Rygbi Cymru (URC), wedi i'r corff llywodraethol ymrwymo i don newydd o fuddsoddiadau i helpu gwirfoddolwyr i hybu a maethu gêm genedlaethol Cymru.

Bu Allan James o'r Rhyl yn swyddog rygbi yng ngogledd orllewin Cymru ers graddio o gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo gyda gradd mewn Hyfforddi Chwaraeon ac Ymarfer sawl blynedd yn ôl. Mae nawr wedi ei benodi fel un o bedwar yn unig o ddatblygwyr clybiau ar draws Cymru, a bydd yn gweithio'n agos gyda grwp penodedig o glybiau sydd wedi eu lleoli o fewn ffiniau ardal Gogledd a Gorllewin URC.

Mae wedi datblygu perthynas gref gyda'r clybiau yn y rhanbarth hwn wedi gweithio ym mhob maes o'r gêm clwb am dros ddegawd. Enillodd brofiad datblygu clwb gwerthfawr drwy weithio'n agos gyda Chlwb Rygbi'r Rhyl ar ei brosiect tŷ clwb a'i symudiad arloesol mewn blynyddoedd diweddar. Mae hefyd wedi gweithio ar sawl prosiect datblygu clwb cenedlaethol fel rhan o'r fenter "Llwybr i Gyfranogiad".

Gwnaeth Undeb Rygbi Cymru ymrwymiad o bwys i gefnogi ei 300+ clwb ar draws Cymru. Rhan allweddol o gyfeiriad strategol yr Undeb wrth symud ymlaen yw buddsoddi yn y bobl a'r llefydd sydd yn hybu a maethu gem genedlaethol Cymru: o chwarae'r gêm, i gefnogi gwirfoddoli a chreu partneriaethau hanfodol.

Rhan gyntaf yr ymrwymiad hwn yw creu'r rolau ychwanegol hyn o fewn y tîm datblygu clybiau. Bydd y datblygwyr sydd newydd eu penodi yn gweithio ochr yn ochr gyda chlybiau i wneud gwahaniaeth go iawn mewn meysydd megis cael gafael ar grantiau a ffrydiau cyllido allanol. Byddant hefyd yn cefnogi ac yn uwchsgilio gwirfoddolwyr, ac yn helpu clybiau i lunio cynlluniau wedi eu teilwrio sydd yn gweithio iddynt.

Dywedodd y pennaeth datblygu clybiau Chris Munro: "Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn i ni lwyddo i roi'r tîm hwn o bobl at ei gilydd sydd yn benderfynol o wneud gwahaniaeth mawr i glybiau o gwmpas Cymru - ac yn fwyaf pwysig, i gefnogi'r bobl yn y clybiau hynny sydd, o dderbyn y gefnogaeth iawn ar bob lefel, yn eu trawsffurfio yn hybiau ffyniannus a chynaliadwy yn eu cymunedau."

Dywedodd cyfarwyddwr cymuned URC Geraint John: "Bu clybiau rygbi wrth galon cymunedau Cymreig am 130 o flynyddoedd. Maent yn cynrychioli'r gorau o Gymru a'i bobl ac yn ffurfio sylfeini ein hetifeddiaeth gyfoethog ym myd chwaraeon. Mae profiad y 18 mis diwethaf wedi tynnu sylw at undod a chryfder unigryw ein clybiau a'r rôl hanfodol a chwaraeant o fewn ein cymunedau - nid yn unig yn maethu chwaraewyr rygbi, hyfforddwyr a dyfarnwyr ond hefyd yn croesawu pob sector o gymdeithas a chefnogi iechyd a lles cenedl.

"Rydym yn dymuno dathlu ein clybiau a'r bobl sydd yn eu gwneud yn arbennig ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w helpu i groesawu dyfodol ein gêm. Bydd ein tîm datblygu clybiau yn allweddol yn hynny ac rydym wrth ein bodd gydag ansawdd yr unigolion yn y tîm sydd yn berchen rhyngddynt ar wledd o brofiad, nid yn unig ar draws nifer o lefelau ein gêm ond ar draws chwaraeon a sectorau eraill."

I gael rhagor o wybodaeth am rygbi, neu gyrsiau chwaraeon eraill, neu am leoedd yn un o academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai, ffoniwch dîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk/cy