Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn trwsio beiciau ar gyfer dysgwyr heb feic!

Mae 80 o fyfyrwyr o adran Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Llandrillo wedi bod yn brysur yn trwsio beiciau a roddwyd i'r coleg fel y medran nhw a'u cyd-fyfyrwyr nad oes ganddyn nhw feic gael un a mwynhau beicio!

Mae'r dysgwyr - sydd ag anghenion dysgu ychwanegol - wedi treulio misoedd yn gweithio ar y prosiect atgyweirio ac adfer ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, gan ddysgu'r sgiliau i drwsio a chynnal a chadw hen feiciau. Cafodd myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol nad oedd ganddyn nhw feic y cynnig cyntaf i dderbyn un.

Cyfrannwyd 16 beic o wahanol ffynonellau: yn cynnwys beiciau mynydd, beiciau BMX a beiciau ffordd. Llwyddodd y myfyrwyr i lunio 12 beic gweithiol o'r 16 gwreiddiol.

Dywedodd eu tiwtor, Robin Murray: “Oherwydd y pandemig nid oedd y myfyrwyr yn medru gweithio ar unrhyw brosiectau allanol, felly bu'n rhaid i ni chwilio am brosiectau ar y campws, unrhyw beth nad oedd yn seiliedig yn yr ystafell ddosbarth.

“Mae’r myfyrwyr wedi bod yn arbennig o’r dechrau i’r diwedd. Bydd dysgu sgiliau bywyd fel y rhain - o ddefnyddio ystod o dŵls i newid teiar - yn werthfawr iawn iddyn nhw. Dim ond y dechrau yw hyn, gobeithio. Y bwriad yw mynd ymlaen i ailgylchu llawer mwy o feics."

Dywedodd Rheolwr y Maes Rhaglen Sgiliau Byw Annibynnol, Jane Myatt: "Rydym yn eithriadol o falch o'n myfyrwyr am eu gwaith caled yn ystod y prosiect. Mi wnaethon nhw fwynhau dysgu sut i drwsio a chynnal a chadw'r beiciau'n arw.”

Nawr mae'r myfyrwyr yn paratoi i symud ymlaen i'w heriau nesaf: cynllun Gwobr Dug Caeredin a dringo ar y Gogarth!

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk

neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk