Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lansio partneriaeth Gwaith ac Astudio newydd rhwng Coleg Meirion-Dwyfor a'r Urdd.

Bydd myfyrwyr ar y Radd Sylfaen mewn Hamdden Awyr Agored yn cael y cyfle i wneud cais am gynllun hyfforddi Glanllyn ochr yn ochr â'u hastudiaethau gradd.

Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau academaidd gyda hyfforddiant sgiliau ymarferol yng Nghanolfan Awyr Agored Glanllyn ac ennill cymwysterau awyr agored pellach a sgiliau gwaith gwerthfawr.

Dywedodd Sion Lloyd o Glanllyn:

“Yr hyn yr hoffem ei gynnig, drwy’r coleg, i’r myfyrwyr hynny sydd â gwir ddiddordeb yn yr awyr agored ydi’r cyfle i weithio am ddau ddiwrnod yr wythnos yn ennill cyflog a phrofiad yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn fel estyniad naturiol i’r cwrs gradd.”

Ychwanegodd

“Trwy ddatblygu hyfforddiant a chymwysterau yn yr awyr agored, bydd myfyrwyr yn cael profiadau gwerthfawr, yn ogystal â chyfle i roi eu gwaith theori ar waith mewn lleoliad ymarferol. Bydd myfyrwyr yn dechrau fel Hyfforddwyr Awyr Agored yn y ganolfan.”

Meddai Eifion Owen, Rheolwr Maes Rhaglen y cwrs Gradd Awyr Agored yn Nolgellau:

"Rydym yn croesawu’r fenter hon yn fawr gan ei fod yn caniatáu i ddysgwyr Gradd Sylfaen gael cyflogaeth berthnasol yn ardal y coleg. Bydd hyn o fudd i'r profiad dysgu ac yn galluogi'r Urdd i gyflogi unigolion dawnus, lleol.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y Radd Sylfaen mewn Hamdden Awyr Agored ar gampws Dolgellau a'r pecyn hyfforddi newydd hwn, cysylltwch â Choleg Meirion-Dwyfor ar 01341 422 827 neu eifion.owen@gllm.ac.uk am fwy o fanylion.