FFILMIAU MYFYRWYR I'W GWELD AR DELEDU CENEDLAETHOL
Bydd myfyrwyr Cyfryngau a Chelfyddydau Perfformio Coleg Menai yn gweld dwy o'u ffilmiau byr ar BBC Wales ac S4C yn fuan.
Bu myfyrwyr ym maes y cyfryngau yn gweithio gyda chwmni cynhyrchu ffilmiau 'It's My Shout' i ffilmio, golygu a chynhyrchu'r ffilmiau. Perfformiodd myfyrwyr y Celfyddydau amrywiaeth o rolau, yn cynnwys y prif rannau a'r rhannau cefnogol yn ogystal ag artistiaid cefndir.
Mae 'It's My Shout' yn arbenigo mewn canfod a datblygu talent newydd yn y diwydiant ffilm. Mae'r cwmni'n gweithio gyda chymunedau a sefydliadau addysg i greu ffilmiau byr ar gyfer eu partneriaid darlledu, y BBC ac S4C ac i ddod o hyd i dalent newydd i'w ddatblygu yn y diwydiant ffilm.
Eleni, cafodd myfyrwyr Coleg Menai gyfle gwych i weithio gyda Richard Harrington, seren y gyfres deledu 'Hinterland'.
Bydd ‘Swimming with Dolphins' i’w gweld nos Fawrth 12 Hydref am 11.15pm ar BBC 2 Wales.
Bydd y ffilm fer Gymraeg ‘Dalen’ i'w gweld nos Fercher 27 Hydref am 9.30pm ar S4C.
Dywedodd Paul Edwards, Rheolwr Maes Rhaglen ym maes y Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio:
"Mae hyn yn gyfle ardderchog i'n myfyrwyr weithio gyda phobl broffesiynol yn y diwydiant - o flaen y camera a thu ôl iddo! Bydd profiadau gwerthfawr fel hyn yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd gwych yn y diwydiant."
"Mae nifer o'n cyn-fyfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o brosiectau blaenorol gyda 'It's My Shout' wedi mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant gyda'r BBC, S4C, Netflix a nifer o gwmnïau cynhyrchu eraill".