Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn Sefydlu Busnes Coffi Newydd!

Mae un o gyn-fyfyrwyr Coleg Menai wedi lansio busnes coffi newydd yng Nghaernarfon.

Sefydlodd Ceurwyn Humphreys, o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, fusnes 'Coffi Dre' gyda dau ffrind agos ym mis Medi.

Yn dilyn astudio Peirianneg Drydanol ac yna gwrs Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu yng Ngholeg Menai rhwng 2008 a 2012, bu Ceurwyn yn gweithio fel Peiriannydd Sain a Pheiriannydd Gweithrediadau i'r BBC yng Nghaerdydd a Bangor.

Lansiwyd y busnes 'Coffi Dre' ar ôl i Ceurwyn sylweddoli fod bwlch yn y farchnad yn nhref Caernarfon.

Menter rhostio a chyfuno coffi yw 'Coffi Dre', gyda diwylliant Caernarfon wrth graidd pwrpas y fenter. Lansiwyd y busnes ar 14 Medi, ar roedd y cyfuniad coffi cyntaf, 'Twtil', wedi gwerthu'n llwyr ar ôl pedwar diwrnod yn unig!

Mae Ceurwyn, a'i ddau ffrind a phartneriaid busnes, Haydn Riley-Walsh a Thomas Graham, wrthi'n gweddnewid trelar ceffylau yn siop goffi artisan symudol hefyd.

Dywedodd Ceurwyn,

"Mae lansio Coffi Dre wedi bod yn brofiad gwych. Rydym ni'n llawn cyffro i gwblhau gweddnewid y trelar a'r gobaith yw cyrraedd rhai marchnadoedd Nadolig yn ystod y misoedd nesaf!

"Rydym ni'n benderfynol o ddathlu Caernarfon a'i phobl gyda Choffi Dre. Mae defnyddio hen iaith y 'Cofi' i roi sylw i rai o'r geiriau ac ymadroddion lleol a ddefnyddir gan bobl Caernarfon yn rhywbeth sy'n hynod o bwysig i ni. Er enghraifft - y cod disgownt ar ein gwefan - 'giaman' - yw'r gair Cofi am 'gath'!"

Gobeithir y bydd Coffi Dre yn medru agor siop goffi a chyfleuster rhostio coffi yng nghanol tref Caernarfon yn y dyfodol.

Os hoffech wybod rhagor am 'Coffi Dre' ewch i https://coffidre.cymru