Myfyrwyr yn Dosbarthu Cardiau Nadolig i Breswylwyr Gofal yr Henoed
Gyda’r nadolig yn agosau, dosbarthwyd cardiau nadolig i breswylwyr Hafan Cefni, Llangefni, oedd wedi eu hysgrifennu gan ddysgwyr Iechyd a Gofal Lefel 2 Coleg Menai.
Yn ystod y tymor diwethaf, mae’r dysgwyr wedi bod yn rhan o gynllun ‘Clwb Brecwast’ y Coleg Cymraeg, i sicrhau eu bod yn cael brecwast sylweddol a chyfle i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Ariannwyd y prosiect gan grant hybu a hyrwyddo Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi Cangen Grŵp Llandrillo Menai i wella hyder dysgwyr, mewn maes mor allweddol, drwy eu sgiliau llafar ac ysgrifenedig. Mae’r dysgwyr wedi bod yn trafod rhaglenni teledu S4C yn y sesiynau wythnosol ac i orffen y prosiect; cyfle i ysgrifennu neges mewn cerdyn nadolig i’w anfon at breswylwyr cartref Hafan Cefni.
Dywedodd Nia Lewis, Swyddog Cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol y Grŵp,
‘Pleser oedd gwneud cysylltiad rhwng y prosiect a chartref preswyl Hafan Cefni. Gyda’r dysgwyr yn debygol o weithio yn y maes gofal yn y dyfodol, roedd yn amlwg eu bod yn awyddus i godi calonnau a chysylltu â’r preswylwyr.’
“Roedd yn braf gweld brwdfrydedd y dysgwyr i anfon cardiau at yr henoed, yn ogystal â gwerthfawrogiad staff a phreswylwyr Hafan Cefni o dderbyn y cardiau”.
Karen Vaughan Jones, tiwtor Iechyd a Gofal Llangefni oedd yn awyddus i ddechrau’r Clwb Brecwast.
Meddai,
‘Yr oeddwn eisiau iddynt gael y cyfle i ymarfer eu sgiliau Cyfathrebu Cymraeg heb bwysau dim byd ffurfiol na gwersi tradoddiadol. Maent wedi mwynhau y cyfle i sgwrsio am faterion y dydd ynghyd a rhaglenni teledu iechyd a gofal. Maer dysgwyr wedi cael boddhad mawr o fod yn ran o’r cynllun.’