Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn Ennill Gwobr Ysgoloriaeth o Fri

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Sir Norman Foster yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) i gyn-fyfyriwr celf.

Bydd Iolo Llwyd, a astudiodd Gelfyddyd Sylfaen ym Mharc Menai y 2018, yn derbyn ariannu llawn am ei ffioedd academaidd wrth astudio ar ei Raglen Gradd BSc mewn Pensaerniaeth.

Mae'r ysgoloriaeth, a grëwyd drwy Sefydliad Norman Foster, yn anelu at sicrhau fod y myfyrwyr mwyaf addawol yn derbyn y cyfleoedd gorau posib i fynd i mewn i'r proffesiwn o bensaernïaeth.

Dywedodd Owein Prendergast, Arweinydd Rhaglen Sylfaen Celf,

"Rydym i gyd yn eithriadol o falch o Iolo - mae'n ardderchog i weld ein cyn fyfyrwyr yn rhagori! Mae Ysgoloriaeth Sir Norman Foster yn wobr â bri mawr iddi, roedd gan Iolo ffordd unigryw o weithio, a gweld y byd, a oedd yn amlwg pa oedd yn fyfyriwr Sylfaen, felly ni ddylem synnu'n llwyr i glywed ei fod wedi ennill y wobr hon. Dymunwn y gorau i Iolo wrth iddo barhau gyda'i astudiaethau, ac edrychwn ymlaen at ddilyn hanes ei yrfa".

Dywedodd Iolo,

"Cefais sioc mawr o fod wedi fy newis fel derbynnydd yr ysgoloriaeth! Roedd y broses ymgeisio yn ddwys ac yn bleserus. Roedd cael y cyfle i gyflwyno fy ngwaith i diwtoriaid dylunio a chyfarwyddwyr ysgol UCL, ymddiriedolwyr y sefydliad a Farshid Moussavi ei hun yn ystod cyfweliadau yn anhygoel, ac rwyf yn ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i wneud hynny.

Yn ddiweddarach roedd cyfarfod Norman Foster ei hun a chael y cyfle i gyflwyno fy ngwaith iddo, ynghyd ag ysgolorion y flwyddyn flaenorol yn wych. Mae yna rywbeth arbennig iawn ynglŷn â gweld gwaith mewn person, mae medru codi, teimlo a chyffwrdd lluniadau, llyfrau brasluniau a modelau yn cynnig profiad gwahanol iawn - un na ellir ei ailadrodd yn dda ar-lein. Felly eto rwyf yn lwcus iawn o fod wedi cael y cyfle i wneud hyn.

Credaf pe na bai am y cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai fyddwn i'n sicr ddim wedi ennill yr ysgoloriaeth hon. Mi wnaeth yr etheg gwaith a ddysgwyd ynghyd â'r gwaith a gynhyrchais yn ystod fy amser yno wir fy mharatoi ar gyfer y dyfodol! Ar ben hynny, roedd y cwrs yn gymaint o hwyl!"