Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Paratoi llong feddygol ar gyfer taith i Madagascar

Mae'r llong 'Island Reach' bron yn barod ddechrau ar ei thaith ar ôl i ddysgwyr Peirianneg Forol Coleg Llandrillo adnewyddu un o'i generaduron, a chyflawni gwaith atgyweirio arall ar yr un pryd

Gwnaeth myfyrwyr Coleg Llandrillo atgyweiriadau hanfodol ar long ysbyty oedd yn barod i ddechrau ar daith ddyngarol i Madagascar.

Bydd yr Island Reach, sy'n eiddo i'r elusen Gristnogol 'Youth With a Mission' (YWAM), yn mynd i'r ynys ym mis Ebrill i ddarparu cymorth meddygol y mae mawr ei angen.

Un o'i brif ddibenion fydd cynnig gofal deintyddol, oherwydd dim ond un deintydd ar gyfer pob 150,000 o bobl sydd yn y rhannau mwyaf anghysbell o Madagascar.

Mae'r Island Reach, oedd yn llong gyflenwi gyda'r Llynges, yn addas i deithio i fyny afonydd a chilfachau bach, sy'n golygu y gall gyrraedd cymunedau sy'n anodd iawn eu cyrraedd fel arall.

Mae ystafell ddeintyddol ar y llong 24 metr o hyd, ynghyd ag ardal ymgynghori â meddygon, fferyllfa a man dosbarthu â stoc dda, uned archwilio llygaid ac uned lawfeddygol, a chabanau ar gyfer staff meddygol.

Mae wedi’i hangori yng Nghonwy ar hyn o bryd, ac mae gwirfoddolwyr, yn cynnwys myfyrwyr a staff o adran Peirianneg Forol Coleg Llandrillo, wedi'i hailwampio’n llwyr.

Ymhlith y myfyrwyr oedd Alistair Cook, Sarah Langton, Aled Hills, Jack Davies ac Ellie Jones, a oedd yn astudio Peirianneg Forol Lefel 2 a 3.

Dywedodd James Lehane, Hyfforddwr Sgiliau Ymarferol Gweithdy yn yr adran Peirianneg Forol: “Daethon nhw atom ni gyda phroblem gydag un o’r generaduron, a dyna pryd gwelon ni'r cwch am y tro cyntaf.

Fe wnaethon ni dynnu injan y generadur o’r llong a'i gludo i’r coleg. Cafodd ei archwilio a'i adnewyddu yn ôl yr angen. Mi gludwyd yr injan yn ôl i'r llong ac mi wnaeth y myfyrwyr helpu i'w ailosod, ac ar ôl hynny mi aethon nhw ati i helpu gydag agweddu eraill o adfer a thrawsnewid y llong.

Mi aeth Jack ac Aled ati o ddifri i wirfoddoli, gan helpu gyda phaentio a phethau eraill. Maen nhw wedi adeiladu strwythur dur ar y llong ac mi oedd angen ei glanhau hwnnw a’i beintio, yn ogystal â’r holl ddeciau. Maen nhw wedi cynorthwyo gyda phopeth o fewn eu gallu.”

Dywedodd capten y llong, Jeremy McWilliam: “Mae MV Island Reach sydd wedi’i hangori yn Harbwr Conwy yn ddiolchgar iawn am y cymorth a’r gefnogaeth a gafodd gan Goleg Llandrillo i baratoi'r llong ar gyfer taith feddygol dyngarol i Fadagascar ym mis Ebrill eleni.

Hoffem ddiolch i’r adran peirianneg forol am eu cymorth i dynnu un o’n generaduron, am ei wasanaethu a’i atgyweirio yn y coleg, cyn ei ddychwelyd a’i ailosod yn y llong lle mae’n gweithio’n dda erbyn hyn.

Hefyd mi fuodd myfyrwyr o’r coleg yn cynorthwyo gyda llawer o swyddi llai yn ystafell injan y llong, yn gwasanaethu, glanhau a thrwsio. Os byddwn yn angori rhagor o’n cychod yng Nghonwy rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â’r berthynas waith hon.”

Mae YWAM yn bwriadu hwylio’r Island Reach o Gonwy i Madagascar ar Ebrill 9. Gellir cyfrannu at y prosiect mewn sawl ffordd trwy www.ywamships.ch

Mae’r myfyrwyr fu’n gweithio ar y llong wedi gadael y coleg ers hynny, ac wedi mynd i yrfaoedd gwerth chweil gyda sefydliadau fel BP a’r Llynges Fasnachol. Mae un o’r myfyrwyr, Ellie Jones, bellach yn astudio Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd James Lehane: “Mae cyfle i bob un o'r myfyrwyr ddilyn gyrfaoedd gwych, mae galw mawr am weithwyr yn y diwydiant. Pan fydd ein myfyrwyr yn gwneud cais am gadetiaeth, mae'r bobl sy'n eu cyfweld yn aml yn bobl sydd wedi bod ar ein cwrs neu sy'n gyfarwydd â'n cwrs.

Yn ogystal â chymwysterau City & Guilds, rydym hefyd yn cynnal cyrsiau RYA, felly mae ein myfyrwyr yn cael cymwysterau cychod pŵer, hwylio, mordwyo - y rhan fwyaf o'r wybodaeth angenrheidiol i ymuno â'r Llynges Fasnachol.

Os ydyn nhw'n dechrau cadetiaeth gyda'r Llynges Fasnachol, maen nhw'n cael eu talu tra maen nhw'n cael eu hyfforddi. Felly nid oes ganddynt unrhyw ddyled fel myfyrwyr prifysgol, ac ar ôl cwblhau'r cwrs gall unigolion 20 mlwydd oed ennill oddeutu £40,000 y flwyddyn.

Mae gallu aruthrol am weithwyr yn y diwydiant, mae'r angen yn llawer mwy na'r cyflenwad o bersonél hyfforddedig sydd ar gael, ac mae hynny'n golygu bod cyfleoedd gwych i ddilyn gyrfaoedd o bob math yn y sector."

Eisiau gweithio ym maes Peirianneg Forol? Cliciwch yma i ddarllen rhagor am gyrsiau Technoleg Forol Grŵp Llandrillo Menai.