Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lansio Brand Dysgu Oedolion Newydd Grŵp Llandrillo Menai

Mewn cyfres o ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf cafodd ‘Potensial’, brand newydd Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer dysgu oedolion a dysgu gydol oes, ei lansio.

Gan weithredu ar draws y pedair sir, Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn, mae Potensial yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion ddatblygu sgiliau newydd, dychwelyd i ddysgu, cael gwybodaeth newydd am bwnc sy'n ddiddordeb iddynt, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer dysgu pellach neu gyflogaeth.

Trwy Potensial, gellir cael mynediad at gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol, o gyrsiau lefel mynediad i gymwysterau proffesiynol sy'n cael eu cyflwyno'n ddwyieithog lle bynnag y bo modd ac sy'n hygyrch i bob dysgwr. Mae cyrsiau ar gael i ddysgwyr ar safleoedd y coleg, neu mewn lleoliadau cymunedol fel canolfannau cymdeithasol a llyfrgelloedd.

Daeth staff a dysgwyr ynghyd i'r digwyddiadau lansio a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gymunedol Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog, ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Abergele, ac ar safle’r Grŵp yn Tŷ Cyfle, Caergybi.

Meddai Aled Jones-Griffith:

“Mae Addysg Oedolion wedi bod yn rhan allweddol o bortffolio Grŵp Llandrillo Menai erioed, ond roedd yn wasanaeth a gafodd ei effeithio’n waeth na darpariaethau eraill gan y pandemig. Felly, rydym yn awyddus i ail-lansio'r gwasanaeth yn y rhanbarth gan roi iddo hunaniaeth glir sy'n pwysleisio ei rôl unigryw yn y Grŵp.”

Mae Kelsey Hughes o Langefni newydd orffen y cwrs ‘Meithrin Sgiliau’ ac ar fin dechrau'r cwrs ‘Cyflwyniad i Ofal Plant’.

Eglurodd Kelsey,

“Rydw i wedi mwynhau'r dosbarth yn fawr iawn – mae wedi bod yn dda cyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gen i blant ifanc gartref felly mae wedi bod yn gyfle gwych i gael amser i mi fy hun a dysgu am rywbeth sydd o ddiddordeb i mi.”

Ychwanegodd,

“Ar y cyfan mae'r cyrsiau'n cael eu cyflwyno'n ddwyieithog, sy'n wych gan fy mod wedi gallu gwneud y gwaith yn Gymraeg. Rydw i'n edrych ymlaen at ddechrau’r cwrs Cyflwyniad i Ofal Plant yn fuan.”

Mae Sean Alexander, o Gaergybi, yn astudio Ysgrifennu Creadigol ar gyfer Llesiant a Chyflwyniad i Wyddorau Cymdeithasol trwy Potensial.

Meddai Sean:

“Ymunais â’r cyrsiau er fy mhleser fy hun, gan fy mod wedi mwynhau ysgrifennu erioed ac mae’r gwyddorau cymdeithasol o ddiddordeb mawr i mi. Mae fy nhiwtoriaid, Rhian a Vanessa, yn frwdfrydig a chefnogol iawn ac yn rhoi sylwadau defnyddiol ar ein gwaith.

“Mae'r cwrs Ysgrifennu Creadigol yn y broses o drefnu ymweliadau â Phenrhos a Pharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi, a’r gobaith ydi y bydd hyn yn ysbrydoli ein gwaith ysgrifennu.”

I gael gwybod rhagor am Potensial a'r cyrsiau sydd ar gael, ewch i gllm.ac.uk/cy/course-type/potensial-dysgu-gydol-oes