Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Gwirfoddoli gyda Chymdeithas Alzheimer!

Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr adrannau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon Coleg Menai ati i gofrestru i fod 'Ffrindiau Dementia'.

Yn dilyn sesiwn wybodaeth gan Clare Young - Pencampwr Ffrindiau Dementia ar gyfer Cymdeithas Alzheimer a darlithydd yng Ngholeg Menai, mae nifer o fyfyrwyr wedi penderfynu gwirfoddoli i fod yn Ffrindiau Dementia ar gyfer y Gymdeithas.

Roedd y sesiwn wybodaeth yn cynnwys pum prif neges ar ddementia a'r heriau y mae'n ei achosi. Gofynnwyd i'r myfyrwyr ystyried sut fyddai modd iddyn nhw helpu pobl sy'n byw â dementia.

Mae 'Ffrindiau Dementia' yn helpu pobl sy'n byw â dementia drwy annog pobl i weithredu - gan wneud rhywbeth mawr neu fach.

Dywedodd Clare Young,

"Roedd yn gyfle gwych i'r myfyrwyr ddysgu mwy am glefyd Alzheimer a meddwl am yr hyn fyddai modd iddyn nhw ei wneud i helpu pobl yn eu cymunedau lleol."

"Mae gormod o bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia yn teimlo nad yw'r gymdeithas yn deall y cyflwr. Mae 'Ffrindiau Dementia' yn helpu i godi ymwybyddiaeth a deall mwy am y cyflwr er mwyn i bobl sy'n byw â dementia allu parhau i fyw fel maen nhw'n dymuno".