Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gweinidog yn agor Canolfan Gofal Anifeiliaid £3m yng Ngholeg Glynllifon

Mae Canolfan Gofal Anifeiliaid gwerth £3m yng Ngholeg Glynllifon wedi ei hagor yn swyddogol gan Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd

Mae'r Ganolfan, a ariannwyd trwy raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn adnodd ar gyfer cyrsiau gofal anifeiliaid y coleg, yn cynnwys Astudiaethau Tir Lefel 1, Gofal Anifeiliaid Lefel 2 a Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3.

Mae Prentisiaethau Nyrsio Milfeddygaeth a Nyrsys Milfeddygaeth Cynorthwyol hefyd ar gael trwy'r ganolfan newydd gyda Labordy Nyrsio Milfeddygaeth pwrpasol lle gall myfyrwyr baratoi ar gyfer arholiadau ymarferol allanol ynghlwm wrth y Fframwaith Prentisiaethau.

Symudwyd anifeiliaid bychain, megis gecoaid, nadroedd, llyffantod a thylluanod eryraidd i'r Ganolfan yn dilyn cwblhau'r prosiect adnewyddu yn yr haf, a chychwynnodd y cyrsiau ym Medi 2021.

Yn ystod yr agoriad swyddogol ddydd Iau (18 Tachwedd), cafodd y Gweinidog ei thywys o amgylch y Ganolfan newydd ac fe groesawodd y datblygiad.

Wrth agor y Ganolfan yng Ngholeg Glynllifon, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Lesley Griffiths AS: "Mae wedi bod yn bleser agor y Ganolfan Gofal Anifeiliaid yn swyddogol. Mae'n adnodd gwych ar gyfer y rhanbarth, a bydd yn chwarae rhan allweddol mewn datblygu sgiliau a chyfleoedd i fyfyrwyr yng Nglynllifon ymuno â'r gweithlu lleol, a manteisio ar yrfaoedd yn y sector tir yn y dyfodol.

"Mae wedi bod yn fraint gweld effaith buddsoddiad Llywodraeth Cymru trwy'r rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer y 21ain Ganrif.”

Meddai Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth Grŵp Llandrillo: “Mae gweld rhai o hen adeiladau amaethyddol stad Glynllifon yn cael eu hailwampio ar gyfer defnydd newydd fel hyn yn ddatblygiad cyffrous iawn. Mae’r adeiladau gwreiddiol yn dyddio’n ôl i’r 1850au, ac ychydig iawn o ddefnydd oedd wedi cael ei wneud ohonynt yn ystod y degawdau diwethaf

“Mae’r datblygiad hwn yn dangos ymroddiad Grŵp Llandrillo Menai i’r sector amaeth, ac yn arbennig i’r sector gofal anifeiliaid yma yn y gogledd orllewin.”

"Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn, ac mi fydd o’n cynnig yr adnoddau a’r cyfarpar addysgu gorau posib i’n myfyrwyr. Mae'r Ganolfan unigryw hon eisoes yn boblogaidd iawn ymhlith y myfyrwyr, ac mae'r adborth gan y criw cyntaf o fyfyrwyr wedi bod yn bositif tu hwnt.”

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Braint oedd cael croesawu'r Gweinidog i ymweld â’r Ganolfan Gofal Anifeiliaid newydd yng Nglynllifon, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gefnogi'r datblygiad.

"Mae hwn yn un o'r sectorau twf yn economi gogledd Cymru. Ein gobaith ydi y bydd yn talu ar ei ganfed mewn swyddi a chyfleoedd yn ystod y degawdau nesaf.”

Ychwanegodd: "Yn ogystal â'r datblygiad hwn, mae un o brif prosiectau Bid Twf Gogledd Cymru wedi ei glustnodi ar gyfer Glynllifon, sef Hwb Economi Wledig sydd werth £13m.

"Mae’r datblygiadau hyn yn dangos ein hymroddiad i'r campws a fydd yn sicr o osod Glynllifon fel un o brif golegau amaethyddol Cymru. Mae’n gyfnod cyffrous a dweud y lleiaf.”

Am fwy o wybodaeth am yr holl gyrsiau a gynigir yng Ngholeg Glynllifon, ewch i wefan Grŵp Llandrillo Menai: www.gllm.ac.uk