Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Adeiladu a Pheirianneg yn cael blas ar lwyddiant Olympaidd

Cafodd myfyrwyr Adeiladu a Pheirianneg Coleg Llandrillo gyfle i brofi eu sgiliau yn erbyn cyd-fyfyrwyr yn y Cystadlaethau Olympaidd i Grefftwyr a'r Arddangosfa Grefftwyr a gynhaliwyd ar gampws y Rhyl.

Bu dwsinau o fyfyrwyr o feysydd crefft yn cynnwys Gwasanaethu a Thrwsio Cerbydau Modur, Trwsio Cyrff Cerbydau, Gwaith Plymio, Gwaith Brics, Teilio a Weldio yn dangos eu sgiliau mewn cystadlaethau brwd ar draws y campws i gipio medalau aur, arian ac efydd, ynghyd ag ystod o wobrau gwych gan bartneriaid diwydiannol fel GE Tools, Makita a Roger Jones.

Darparodd y Cystadlaethau Olympaidd i Grefftwyr brofiad da i ddysgwyr y Rhyl mewn amgylchedd cystadleuol. Cafodd y myfyrwyr eu hysbrydoli gan eu llwyddiant, a rhoddodd hyder iddynt gymryd rhan mewn cystadlaethau Cymru gyfan, y Deyrnas Unedig a rhyngwladol yn y dyfodol. .

Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i gael golwg ar safle'r Ganolfan Rhagoriaeth Peirianneg gwerth £11m i'w datblygu ar gampws y Rhyl, a dderbyniodd ganiatâd cynllunio swyddogol gan Gyngor Sir Ddinbych ar ddiwrnod y gystadleuaeth.

Ochr yn ochr â'r gystadleuaeth roedd dros ddwsin o gwmnïau’n arddangos mewn ffair crefftwyr i alluogi dysgwyr y Rhyl a champysau eraill Coleg Llandrillo weld rhai o'r datblygiadau diweddaraf o ran tŵls ac offer adeiladu a pheirianneg. Roedd busnesau eraill yno i roi gwybodaeth i ddysgwyr am gyfleoedd prentisiaeth.

Yn dilyn llawer o drafod ymhlith y staff peirianneg ac adeiladu, cyflwynwyd y medalau aur gan Bennaeth Coleg Llandrillo, Lawrence Wood, i'r enillwyr haeddiannol: Owen Healy o Landudno (Cerbydau modur); Harvey Gray o Ddinbych (Plymio); Jacob Harley o Drefnant (Llwybr i Sgiliau Adeiladu); Lewis Hobson a Charlie McCausland, y ddau o Brestatyn (Gwaith Brics x 2 grŵp); Connor Clarke o Fae Cinmel (Ffabrigo a Weldio), a Boyd Williams o'r Rhyl (Trwsio Cyrff Cerbydau).

Dywedodd Salah Berdouk, Pennaeth Cynorthwyol - Cyfrifiadura a Diwydiannau Creadigol, Adeiladu a Pheirianneg: “Roedd y Cystadlaethau Olympaidd i Grefftwyr yn brosiect ar y cyd dan arweiniad Coleg Llandrillo wedi'i gefnogi gan y cyflenwr diwydiannol a'r prif noddwr GE Tools, i ysbrydoli ein dysgwyr, rhoi blas ar gystadlu iddynt a diwrnod i'w gofio.

"Gwnaeth y dysgwyr - sydd wedi bod yn astudio eu cyrsiau am ychydig o wythnosau'n unig - ymateb i'r her a goresgyn ein holl ddisgwyliadau. Roedd safon uchel y gwaith a gynhyrchwyd gan yr holl gystadleuwyr wedi gwneud argraff ar y staff. Mwynhaodd y myfyrwyr y profiad yn fawr ac maent yn edrych ymlaen at y cyfle nesaf i ddangos eu sgiliau - p'un ai mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol neu yn y gweithle.

“Diolch eto i GE Tools a'r cwmnïau eraill a gefnogodd y digwyddiad, gan roi gwobrau hael i'r enillwyr. Fe aethant cyn belled â rhoi gwobr i bob myfyriwr a gymrodd ran yn y diwrnod!"

Dywedodd Chris Owen, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Tools: "Cawsom ddiwrnod gwych ac roedd yr awyrgylch ymhlith y dysgwyr a chynrychiolwyr y diwydiant yn rhagorol. Cawsom ymateb anhygoel, gyda channoedd yn cymryd rhan ac yn bresennol yn y digwyddiad, felly hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth."

"Rydym ni'n ffodus fod gennym ni rai o'r colegau gorau yn y wlad ar garreg ein drws, gyda darlithwyr sgiliedig a chyfleusterau rhagorol. Felly does dim platfform gwell i'r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a llwyddo."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Adeiladu a Pheirianneg, neu unrhyw gyrsiau eraill ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, ffoniwch 01745 354 797.

E-bost: ymholiadau.rhyl@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk