Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr CMD Dolgellau yn cael cydnabyddiaeth am ei gwaith gwirfoddol mewn seremoni yn y Galeri yng Nghaernarfon.

Yn ddiweddar, cafodd Kamar El Hoziel sydd yn fyfyrwraig yn yr adran Sgiliau Byw a Gwaith yn Nolgellau gydnabyddiaeth a thystysgrif mewn seremoni wobrwyo yn y Galeri am ei gwaith gwirfoddol.

Trefnwyd y noson gan Fantell Gwynedd, yr asiantaeth sydd yn cefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar draws y sir, ac sydd yn annog cyfranogiad gwirfoddol, mewn seremoni urddasol yn y Galeri, Caernarfon.

Mae Kamar o Borthmadog wedi llwyddo i wneud dros 200 o oriau gwirfoddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gydag asiantaethau allanol ac yn y coleg.

Dywedodd Morfudd Pugh Edwards, Cydlynydd Cwrs Datblygu Annibyniaeth a Sgiliau Byw a Gwaith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.

“Mae Kamar wedi gweithio'n galed ac yr ydym yn falch iawn o'i llwyddiant yma yn yr adran. Mae Kamar yn awyddus i barhau gyda'r gwirfoddoli ac yr ydym yn dymuno'n dda iddi gyda hyn.”

Os hoffai staff GLLM ddilyn esiampl wych Kamar, mae croeso i chi wirfoddoli yn eich cymunedau yn ystod ein Diwrnod Gwirfoddoli Cymunedol sydd wedi ei drefnu ar gyfer holl staff y Grŵp ar ddydd Llun, Mehefin 27 ain.