Myfyrwraig a oedd yn Athrawes yn Tunisia yn dychwelyd i'r Ystafell Ddosbarth ar ôl cwblhau Cyrsiau yn y Coleg
Mae myfyrwraig o Goleg Llandrillo, a oedd yn gweithio fel athrawes ysgol uwchradd yn Tunisia cyn iddi benderfynu symud i Brydain i ymuno â'i gŵr, wedi dychwelyd i fyd addysg wedi iddi gael swydd fel cynorthwyydd addysgu.
Penderfynodd Olfa Ep Garraoui, sy'n byw yn Llandrillo-yn-Rhos erbyn hyn, symud i Gymru'n barhaol yn 2013, er na allai siarad gair o Saesneg.
Yn 2017, aeth ati i gofrestru ar gyfres o gyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) mewn dau o leoliadau Coleg Llandrillo ym Mae Colwyn (Neuadd y Dref a Ffordd Greenfield) yn ogystal â champws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, er mwyn cael cyflwyniad i'r iaith Saesneg. Daeth ei bachgen bach blwydd oed gyda hi i un o'r dosbarthiadau yn y gymuned, ac roedd hi'n ei fwydo wrth gymryd nodiadau!
Aeth yn ei blaen i astudio cwrs Cynorthwyydd Addysgu - gan gwblhau Lefelau 1, 2 a 3 - ac erbyn hyn mae hi wedi cael swydd fel cynorthwyydd addysgu yn Ysgol Glanwyddan ym Mae Penrhyn. Llwyddodd i gwblhau ei chymhwyster Lefel 3 ym mis Mehefin, er iddi ddal Covid-19 yn yr un mis!
Penderfynodd Olfa, sy'n fam i ddau fachgen ifanc, ymuno â'i gŵr - a oedd wedi bod yn gweithio ym Mhrydain am 20 mlynedd - yn barhaol wyth mlynedd yn ôl. Er bod ganddi afael dda iawn ar yr iaith Saesneg erbyn hyn, dyma ei thrydedd iaith : Arabeg yw ei hiaith gyntaf a Ffrangeg yn ail iaith.
Dywedodd Susie Noden, tiwtor Olfa: “Fi oedd ei hathrawes gyntaf wedi iddi gofrestru ar ei chwrs ESOL cyntaf. Cychwynnodd ei thaith yn y gymuned, cyn i mi ei pherswadio i fynychu'r dosbarthiadau yn y coleg, ac yno parhaodd i ffynnu. Yna aeth ymlaen i astudio'r cyrsiau Cynorthwyydd Addysgu gydag Andrew Ogle. Mae hi'n fyfyrwraig arbennig iawn sy'n llawn brwdfrydedd ac angerdd. Rydym yn dymuno'n dda iddi gyda'r bennod nesaf yn ei bywyd."
Roedd Olfa eisiau cyflwyno ei dyfyniad i'w thiwtoriaid Andrew a Susie: "Diolch i chi am wrando ac am eich arweiniad a'ch ysbrydoliaeth. Diolch am eich anogaeth ac am fod yno i mi. Ond yn fwy na dim, diolch am fod yn rhan o fy nhaith".
Gan edrych ymlaen at y cam nesaf yn ei thaith ddysgu, dywedodd Olfa: "Dw i eisiau dysgu siarad Cymraeg rŵan".
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ESOL neu gyrsiau Cynorthwyydd Addysgu yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.
Gwefan: www.gllm.ac.uk
E-bost: generalenquiries@gllm.ac.uk