Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Aelod staff o adran Celf CMD yn dylunio Baton i ddathlu pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70.

Yn ddiweddar, cafodd Miriam Margaret Jones, sydd yn ddarlithydd dylunio 3d yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, ei chomisiynu i greu Baton ar gyfer dathliadau Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 oed.

Cafodd y Baton ei gludo o Ogledd Eryri i dde Eryri, a hynny gan amlaf ar droed, gan fynd drwy afonydd, mynyddoedd a llynnoedd ar ei daith. Staff y Parc Cenedlaethol oedd yn cludo’r Baton yn ystod y daith.

Mae'r Baton wedi ei durnio o bren derw, gyda mewnosodiad o fetel alwminiwm gydag amlinelliad o fynyddoedd Eryri wedi ei dorri allan, ceir gwlân dafad Gymreig wedi ei wehyddu drwyddo fel addurn arno.

Dywedodd Miriam Margaret Jones

“Ysbrydoliaeth y baton Eryri’n 70 oedd defnyddio defnyddiau naturiol sy’n deillio yn aml o Gymru megis pren derw, gwlân dafad a chopr. Oedd angen cysidro dygnwch y defnyddiau ag iddo fod yn ddeniadol ac unigryw hefyd i ddynodi dathliad 70 mlynedd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’n ddyluniad syml, gydag amlinelliad y mynyddoedd mewn metel wedi fewn osod i’r pren. Mae’r geiriau ‘Cawn adnabod iaith y gwynt…’ ar y baton wedi eu hysbrydoli gan gerdd ‘Holwyddoreg Eryri’ y Prifardd Ifor ap Glyn yn rhan o’r dathliad.”

“Bydd y baton yn cael ei gario ‘fel y gwynt’ gan staff, aelodau, gwirfoddolwyr a phartneriaid y Parc ar daith noddedig i ddathlu 70 mlwyddiant ers ei sefydlu.