Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Celfyddydau mewn Partneriaeth â Gwerthwyr Tai sydd wedi ennill sawl gwobr

Mae myfyrwyr Celf a Dylunio campws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos wedi dechrau gweithio ar gasgliad o ddyluniadau posteri pwrpasol a fydd yn cael eu harddangos mewn swyddfeydd gwerthwyr tai adnabyddus yng Ngogledd Cymru.

Mae'r dysgwyr, sy'n astudio Astudiaethau Sylfaenol mewn Celf a Dylunio, yn cymryd rhan mewn prosiect masnachol ar y cyd a Williams Estates, ac fel rhan o'r briff, gofynnwyd iddyn nhw greu arddangosfeydd ffenestr deniadol.

Daeth Jason Williams, perchennog Williams Estates, i'r coleg i egluro'r briff gan ofyn i bob myfyriwr greu darlun unigol ar y thema "Does Unman yn debyg i Gartref". Bydd Jason yn dyfarnu £100 i'r myfyriwr sy'n creu'r dyluniad gorau, a £50 yr un i'r ddau ail orau. Bydd y creadigaethau yn cael eu harddangos yn arddangosfa ffenestr dan olau LED y cwmni.

Dyma'r 15fed flwyddyn mae'r gwerthwyr tai wedi cydweithio â myfyrwyr Celf a Dylunio.

Bydd y myfyrwyr yn meddwl am restr o syniadau creadigol, cyn defnyddio camerâu digidol a chyfrifiaduron Apple iMac gyda meddalwedd digidol creadigol Adobe. Yn ogystal â gweithio'n unigol ar eu gwaith trin digidol eu hunain, bu'n rhaid i'r myfyrwyr weithio gyda'i gilydd fel grŵp gyda'r cleient gan ddatblygu eu sgiliau gweithio fel tîm.

Dywedodd Jason Williams, perchennog Williams Estates: "Edrychaf ymlaen at farnu'r posteri gorffenedig. Y llynedd, roedden nhw'n bwnc trafod gyda phobl yn eu canmol wrth Williams Estates bob dydd. Rhoddodd yr arddangosiadau wên ar nifer o wynebau a dwi'n edrych ymlaen at arddangos y syniadau newydd yn ein swyddfeydd."

Dywedodd y tiwtor Dewi Owen Hughes: "Rydw i'n frwd dros fagu cysylltiadau o'r fath gyda diwydiant, gan fy mod yn credu bod prosiectau gwaith realistig yn gwella profiadau ac o fantais wrth iddynt chwilio am waith yn y dyfodol.

"Bydd y myfyrwyr yn ychwanegu gwerth at eu hastudiaethau drwy weithio ar swydd go iawn. Mae pawb yn edrych ymlaen at weld eu gwaith yn cael ei argraffu a'i arddangos yn chwaethus dan olau LED yn swyddfeydd Williams Estates."

"Mae pawb yn elwa ar brosiectau o'r math yma, ac maen nhw'n datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ar ôl iddynt adael y coleg. Mae busnesau yn cael y cyfle i gyflawni prosiectau o fewn y gyllideb, tra mae myfyrwyr yn dysgu am gynhyrchu gwaith o safon ac o fewn terfynau amser y diwydiant ac yn gweithio gydag arbenigwyr diwydiant a chwmnïau llwyddiannus."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk