Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Adborth Cadarnhaol gan Ddysgwyr yn yr Arolwg Myfyrwr

Canmolwyd Grŵp Llandrillo Menai gan bron i 2,000 o ddysgwyr mewn arolwg diweddar pan ddywedodd 99% ohonynt fod ansawdd y coleg, yr addysgu a'r dysgu'n 'dda iawn'.

Gwahoddwyd yr holl ddysgwyr o dri choleg y Grŵp - Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor - i gymryd rhan yn 'Arolwg y Dysgwr Addysg Bellach - Hydref 2022'.

Nododd 99% o'r dysgwyr hefyd eu bod yn 'teimlo eu bod ar y cwrs cywir' a'u bod yn 'gwybod gyda phwy i gysylltu pan fyddant yn absennol'. Cytunodd 97% eu bod wedi: 'derbyn adborth defnyddiol ar eu cynnydd hyd yn hyn'; 'bod y coleg yn gynwysedig o bawb ac yn caniatáu dysgwyr i fynegi eu hunain fel unigolion' a bod yr 'addysgu a'r dysgu yn bodloni eu anghenion unigol'. Roedd 96% yn 'ymwybodol o'u targedau ar gyfer y cwrs ac o ran llythrennedd a rhifedd'.

Roedd yr adborth gan fyfyrwyr yn cynnwys ystod eang o ddyfyniadau cadarnhaol dros ben: 'Cewch eich trin fel oedolyn, nid fel myfyriwr'; 'Mae astudioyn y coleg yn dda gan ein bod yn cael cyfle i gyrraedd ein targedau a datblygu yn barod i'r dyfodol'; 'Mae fy nhiwtor personol yn gefnogol iawn' ac mae 'Dosbarthiadau bychan yn ei gwneud yn haws i mi ganolbwyntio ac mae'r athrawon yn rhoi llawer iawn o help i ni'.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau, ewch i'n gwefan: www.gllm.ac.uk neu cysylltwch â’r llinell cyngor ar gyrsiau ar 01492 542 338 yn achos Coleg Llandrillo, 01758 701 385 yn achos Coleg Meirion-Dwyfor, a 01248 383 333 yn achos Coleg Menai.