Cymorth myfyrwyr o Goleg Menai i ddiwrnod Llwybrau Llesiant
Aeth grŵp o fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau chwaraeon yng Ngholeg Menai ati i chwarae rhan flaenllaw mewn digwyddiad a drefnwyd gan y cyngor ar gyfer oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau.
Cefnogodd y myfyrwyr o adrannau Chwaraeon a Gwyddor Chwaraeon a Hyfforddi a Datblygu ym maes Chwaraeon, y rhai oedd wedi dod i gymryd rhan yn y 'Diwrnod Llesiant' a drefnwyd gan Gyngor Gwynedd drwy 'Llwybrau Llesiant'.
Hwylusodd y 10 myfyriwr amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys pêl-fasged, pêl-droed, boccia, sesiynau ffitrwydd, sesiynau meddylgarwch ynghyd â gweithgareddau datrys problemau fel Jenga a Connect 4.
Daeth dros 40 o ddefnyddwyr gwasanaeth Antur Waunfawr, Ysgol Pendalar a nifer o ddarparwyr gofal dydd i fwynhau diwrnod llawn o weithgareddau. Cegin Arfon, sy'n cael ei redeg gan ddefnyddwyr gwasanaethau dydd oedd yn gyfrifol am luniaeth ar y diwrnod.
Roedd cynrychiolwr o Gyngor Gwynedd yn bresennol i rannu gwybodaeth yn ymwneud â lles cyffredinol ag unigolion, gweithwyr a theuluoedd ynghyd â gwybodaeth am gyfleoedd o fewn Llwybrau Llesiant, Byw'n Iach, Dinesydd Digidol Cymru, Heini am Oes a sut i ddefnyddio'r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol.
Prosiect dan adain Gwasanaethau Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd ydy Llwybrau Llesiant. Ariennir y prosiect gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect ydy datblygu potensial oedolion gydag anableddau dysgu drwy ddilyn gwahanol lwybrau llesiant.