Myfyriwr yn ennill cap am am lwyddiant mewn Criced galluoedd cymysg
Cafodd myfyriwr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo, sy'n aelod allweddol o sgwad Criced Galluoedd Cymysg Cymru, ei gap cyntaf am gynrychioli ei wlad yn ddiweddar.
Cyflwynwyd eu capiau i Matthew Kennedy, 18 oed o Hen Golwyn - ac aelodau eraill y tîm - gan gynrychiolwyr Criced Cymru wedi iddynt ddod yn ail mewn cystadleuaeth pencampwriaeth sirol.
Sgwad Criced Galluoedd Cymysg Criced Cymru yw'r tîm galluoedd cymysg cyntaf yng Ngogledd Cymru, ac mae'n cynnwys chwaraewyr o Glwb Criced Bae Colwyn a Chlwb Criced Gwersyllt.
Bu'r tîm yn cynrychioli Cymru'n ddiweddar yn y Bencampwriaeth Sirol newydd 'Super 9s' yn erbyn llu o wrthwynebwyr cryf, yn cynnwys Sir Gaerhirfryn a Sir Gaer.
Gwnaeth tîm Gogledd Cymru gyrraedd y gêm derfynol cyn colli o drwch blewyn i dîm Sir Efrog yn y rownd derfynol ranbarthol (Y Gogledd). Gwnaeth llwyddiant y tîm greu argraff a syndod i Fwrdd Criced Lloegr a Chriced Cymru, yn enwedig gan eu bod yn cystadlu yn erbyn timau llawer mwy ac wedi'u sefydlu ers talwm, a oedd yn cynnwys cricedwyr o sgwadiau anabledd Lloegr.
Mae Matt yn astudio ar gwrs Diploma Gweini Bwyd a Diod yn Broffesiynol yn y coleg ar hyn o bryd. Cyn hynny bu'n dilyn cyrsiau gan adran Sgiliau Byw'n Annibynnol y coleg am ddwy flynedd. Mae'r adran yn cynnal nifer o gyrsiau sydd wedi'u teilwra'n arbennig i ddiwallu anghenion myfyrwyr sydd ag anableddau dysgu ysgafn i gymedrol, anableddau dysgu difrifol ac anhwylderau ymddygiadol cymdeithasol ac emosiynol.
Mae ei fam, Debbie, sy'n hynod falch o'i lwyddiant, yn gweithio fel cymhorthydd gweinyddol yn yr adran TGAU a Sgiliau Hanfodol. Meddai: “Roedd yn gyflawniad anferthol cyrraedd y gêm derfynol, yn enwedig gan mai dyma'r tymor cyntaf i'r tîm chwarae efo'i gilydd. Rydym mor ni mor falch o Matthew, a oedd hefyd yn gyd gapten y tîm."
Nid dyma'r unig reswm dathlu i'r teulu Kennedy, gan fod dwy o chwiorydd Matt - Hannah ac Amy, sydd hefyd yn fyfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo - wedi rhagori yn y byd criced hefyd. Mae'r ddwy yn aelodau adran merched Clwb Criced Bae Colwyn, a gwnaeth y tîm ennill Plât 100 Pêl Cymru yn y twrnamaint cyntaf i ennill y wobr hon ym maes Clwb Criced Morgannwg, gan guro tîm De Cymru. Mae tîm Bae Colwyn yn gydradd gyntaf gyda thîm merched Clwb Criced Bethesda yng Nghynghrair Criced Merched Gogledd Cymru ar hyn o bryd.