Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn dod O’r UDA i Ymweld â Glynllifon i Lansio Prosiect Cyfeillio Newydd

Yn ddiweddar, daeth Taff Hughes sydd yn wreiddiol o Lannor ger Pwllheli, ond sydd bellach yn byw yn Ellinwood, Kansas ar ymweliad arbennig a Choleg Glynllifon er mwyn rhannu ei brofiadau, ac i gychwyn prosiect cyfeillio newydd cyffrous.


Bu Taff yn fyfyriwr Peirianneg yn y coleg, cyn iddo fudo i Unol Daleithiau’r America yn ŵr ifanc i weithio mewn rhai o ffermydd mwyaf y wlad. Bellach mae Taff yn berchennog un o gwmnïau contractio cynaeafu mwyaf y wlad, sydd yn cyflogi degau o weithwyr. Mae ei gwmni Hughes Harvesting yn cynaeafu cnydau amrywiol mewn ardal ddaearyddol anferthol, o Texas yr holl ffordd i fyny drwy ganol y wlad i North Dakota.

Mae’r cwmni yn berchen rhai o’r peiriannau cynaeafu mwyaf soffistigedig sydd ar y farchnad, ac yn gweithio mewn caeau oddeutu milltir sgwâr o ran maint, yn cynaeafu cnydau megis, corn, india corn a soia.

Yn ystod yr ymweliad, rhoddwyd gwybod i fyfyrwyr y coleg, bod cwmni 'Hughes Harvesting' yn cynnig cynllun cyfeillio newydd i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y coleg, a fyddai’n golygu, cael y cyfle i fynd draw i weithio gyda’r cwmni yn yr Unol Daleithiau am dymor. Bydd y cynllun cyffrous yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2023.

Dywedodd Rhodri Manod Roberts, Pennaeth Fferm Coleg Glynllifon,

“Mi oedd hi’n fraint cael croesawu Taff Hughes i’r coleg yn ddiweddar. Mi oedd gwrando arno yn rhannu ei brofiadau gyda myfyrwyr amaeth a pheirianneg Glynllifon, wirioneddol yn wych. Dyma hogyn o Lannor, a aeth yn ŵr ifanc i America, ac sydd wedi llwyddo i gychwyn un o’r cwmnïau contractio mwyaf blaenllaw a llwyddiannus yn y wlad. Mi oedd ein myfyrwyr gwirioneddol wedi eu cyfareddu gan ei stori”

“Mae cael clywed am lwyddiannau ysgubol rhai o’n cyn myfyrwyr fel hyn yn bwysig iawn i ni fel coleg, ac yn dangos yn glir i’n myfyrwyr bod modd llwyddo drwy waith caled a dycnwch.”

“Mae’r hyn sydd yn cael ei gynnig gan Hughes Harvesting wirioneddol yn hynod o gyffrous. Mae ein diolch i Taff, ac i’r cwmni yn anferthol. Nid ar chware bach y mae gwneud cynnig o’r math yma. Diolch i chi, ac rydym fel coleg yn gobeithio gallu cyd-weithio am flynyddoedd lawer i’r dyfodol”

Dywedodd Taff Hughes o gwmni Hughes Harvesting,

“Mae fy niolch i Goleg Glynllifon yn anferthol. Heb y seiliau a osodwyd yma, bron i 40 mlynedd yn ôl bellach, dwi’n sicr na fyddai fy mywyd wedi dilyn yr un trywydd. Yn ŵr ifanc, mi wnes i fynd ar un antur fawr i America, disgyn mewn cariad gyda’r wlad, a gyda’r bobol, a chael gweithio yn y maes Peirianneg Diwydiannau’r Tir, cyn cychwyn fy musnes fy hun.”

Ychwanegodd Taff,

“Mae creu cysylltiadau gyda Chymru yn bwysig iawn i mi, mae fy nheulu yn parhau i fyw yn yr ardal lle ges i fy magu, ac mae hi bellach yn amser i mi gynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned honno, ac yn arbennig i’r Coleg. Dyna pam felly, bod cwmni Hughes Harvesting yn cynnig prosiect cyfeillio newydd gyda’r coleg, sydd yn golygu y bydd modd i fyfyrwyr ymgeisio am le, i ddod i weithio gyda’r cwmni am dymor yn America. Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd gyda diddordeb yn y maes hwn. Byddwn yn hyfforddi’r myfyrwyr i ddefnyddio peiriannau cynaeafu, yn rhoi’r cyfle iddynt weithio ar ffermydd amrywiol ar hyd a lled y wlad. Felly bachwch y cyfle”

Am fwy o fanylion, mae croeso i chi gysylltu gyda’r coleg, neu gyda chwmni Hughes Harvesting yn uniongyrchol - hughesharvester@gmail.com