Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Stephanie yn hwylio tuag at yrfa lwyddiannus

Mae'r cyn-fyfyriwr o Goleg Menai wedi rhoi ei bryd ar fod yn swyddog dec, a'i nod yn y pen draw yw bod yn gapten ar ei llong ei hun

Yn dilyn ei chyfnod yng Ngholeg Menai, mae Stephanie ar ei ffordd i fod yn swyddog dec ar long bleser.

Dilynodd y ferch 20 oed o Gaergybi'r cwrs Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 ar gampws y coleg ym Mangor, cyn cael lle ym Mhrifysgol Solent yn Southampton.

Bellach mae hi ar ail flwyddyn ei chwrs Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gwyddor Forol.

Mae Stephanie wedi rhoi ei bryd ar gael gyrfa'n hwylio'r byd, a'i nod yn y pen draw yw bod yn gapten ar ei llong ei hun.

Yn sicr, mae hi wedi bod yn ennill digon o brofiad ar y môr, gan gynnwys gweithio yn Fferm Wynt Seagreen oddi ar arfordir yr Alban a Fferm Wynt Burbo ym Mae Lerpwl.

“Yn ystod ail ran fy nghwrs, cefais fynd i'r môr i weithio ar ddwy fferm wynt wahanol ym Mhrydain,” meddai Stephanie. “Cefais amser ardderchog – rydw i wedi dysgu llawer o sgiliau newydd, wedi cael cyfle i gyfarfod pobl ddiddorol a gwneud ffrindiau newydd, ac i goroni'r cyfan wedi cael oriau lawer o brofiad hwylio.

“Yr uchafbwynt oedd glanio cwch yn ddiogel ar dyrbin am y tro cyntaf er mwyn gallu trosglwyddo’r technegwyr i'r tyrbin.

“Roeddwn i hefyd yn ddigon lwcus i gael fy ngwahodd i seremoni enwi un o longau'r cwmni yn Llundain ym mis Chwefror. Roedd yn brofiad anhygoel ac yn fraint fawr cael gwahoddiad.

“Erbyn hyn rydw i'n ôl yn y coleg yn astudio tua 10 pwnc gwahanol, gan gynnwys gwahanol fathau o weithrediadau llongau, symud, ymateb brys, llywio, sefydlogrwydd, gwaith siartiau ac ati.

“Rydw i'n cael amser gwych ac yn mwynhau fy hun yn fawr. Rydw i'n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r môr ar gyfer cam pedwar ym mis Mawrth.”

Pan ofynnwyd iddi am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Stephanie: “Y peth cyntaf yr hoffwn ei wneud yw cwblhau fy nghwrs, pasio'r arholiadau llafar i fod yn Swyddog yr Wylfa a dechrau gweithio fel swyddog ar longau.

“Byddwn wrth fy modd yn gweithio ar longau pleser, yn hwylio’r byd a chael cwrdd â phobl newydd. Rywbryd yn y dyfodol rydw i'n gobeithio cymhwyso i fod yn gapten a chael fy llong fy hun.”

Dilynodd Stephanie y cwrs Peirianneg Forol Lefel 2 yng Ngholeg Menai cyn mynd ymlaen i wneud y cwrs Teithio a Thwristiaeth, a rhoddodd hyn ddealltwriaeth drylwyr iddi o'r yrfa yr hoffai ei chael.

“Helpodd y cwrs Teithio a Thwristiaeth fi i gael dealltwriaeth well o'r diwydiant llongau pleser a llongau fferi,” meddai Stephanie, a enillodd wobr yr adran Arlwyo, Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth yn Seremoni Wobrwyo'r Coleg yn 2022.

“Gall y cwrs roi dealltwriaeth i chi o bob rhan o’r diwydiant ym mhob cwr o'r byd, felly byddwch yn cael dysgu am y rhannau hynny o'r sector y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw.

“Dysgodd fi hefyd am y byd proffesiynol – sut i siarad gyda chydweithwyr a chleientiaid yn y ffordd gywir, a gwahanol ddulliau o ddelio â sefyllfaoedd a phroblemau yn y gweithle.

“Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf roedden ni i mewn ac allan o gyfnodau clo oherwydd Covid, ond yn yr ail flwyddyn roedden ni’n ddigon ffodus i fynd ar deithiau i ddysgu am wahanol sectorau twristiaeth a sut roedden nhw’n gweithredu, pa gymwysterau oedd eu hangen ar gyfer swyddi, a beth roedden nhw'n ei wneud i wella profiadau eu cwsmeriaid a'u cleientiaid.

“Ar ddiwedd fy ail flwyddyn, ym Mehefin 2022, mi wnes i fwynhau'n fawr cael teithio i Sbaen gyda'r coleg i gael profiad gwaith.

“Roedden ni mewn coleg twristiaeth a lletygarwch yn Mostoles. Ar ôl cyfnod Covid roedd hi'n braf cael rhoi'r hyn roedden ni wedi'i ddysgu yn ein gwersi a'n haseiniadau ar waith, a dyna'r peth ofal wnes i yng Ngholeg Menai.”

Canmolodd Stephanie ei chyn-ddarlithwyr, Sharon Jones, Hilary Jones a Cath Skipp, gan ddweud bod y coleg wedi ei gwneud hi’n fwy hyderus yn ei gallu i gyflawni'n academaidd.

“Roedd y tiwtoriaid yn anhygoel a bob amser yn fodlon helpu, boed hynny gyda’r gwaith cwrs neu gyda'r cais a'r cyfweliadau i fynd i'r brifysgol,” ychwanegodd.

“Rydw i'n ddihyder iawn gyda gwaith cwrs a phethau felly, ac roeddwn yn poeni na fyddwn i'n gorffen y cwrs ar amser neu na fyddwn i’n cael y graddau angenrheidiol i fynd i’r brifysgol.

“Ond ar ôl gorffen y cwrs a chael fy ngraddau, ro'n i wedi cael fy synnu ar yr ochr orau ac yn hapus iawn gyda fi fy hun. Yn bendant, newidiodd hyn fy nisgwyliadau gan wneud i mi gael mwy o hyder yn fy ngwaith cwrs.”

Hoffech chi astudio Teithio a Thwristiaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai? ⁠I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, cliciwch yma.