Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Teithio a Thwristiaeth Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gychwyn gyrfa ym maes teithio a thwristiaeth? Neu baratoi ar gyfer dilyn cwrs gradd yn y maes?

Ar y rhaglen hon cewch ddysgu'r sgiliau uwch sydd eu hanger i weithio yn y diwydiant neu i fynd ymlaen i Addysg Uwch. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'r sector, ynghyd â set o sgiliau mwy arbenigol.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 2 perthnasol, neu sydd newydd sefyll eu harholiadau TGAU. Mae hefyd yn addas i rai sydd â chefndir proffesiynol ac sydd eisiau dysgu sgiliau newydd.

Byddwch yn ennill cymwysterau lluosog ar raglen astudio llawn heriau. Cewch elwa ar brofiad gwaith ac ymweliadau allanol, i lefydd ym Mhrydain a thramor.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y Dosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtor
  • Ymweliadau Addysgiadol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir
  • Profiad gwaith

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Gwaith ymarferol ac aseiniadau/asesiadau ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Gwaith portffolio
  • Perfformiad ac arsylwi

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Mae'r cymhwyster gyfystyr â 3 Lefel A, a Bagloriaeth Cymru gyfwerth â Lefel A arall. Bydd y cymwysterau hyn yn eich gwneud yn gymwys i gael eich derbyn i astudio amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn nifer o sefydliadau. Pe baech chi'n dymuno parhau i astudio'r pwnc hwn mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cwrs Gradd Sylfaen a BA Anrhydedd mewn Rheoli ym Maes Teithio a Thwristiaeth.

Byddwch wedi dysgu sgiliau a safonau safon uwch y diwydiant a byddwch yn gallu yn gallu gweithio tuag at amrywiaeth o yrfaoedd yn syth neu yn dilyn hyfforddiant pellach. Mae'r gyrfaoedd yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau twristiaeth lleol a rhanbarthol, ym maes atyniadau cenedlaethol, cynadleddau a digwyddiadau yn ogystal â gweithio dramor gyda chwmnïau awyrennau neu reolwyr teithiau a chyrchfannau. Fel arall, gallech ddefnyddio eich sgiliau ym maes marchnata neu fasnach neu broffesiwn arall.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • International
  • Teithio a Thwristiaeth

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Bangor

Dwyieithog:

n/a

Teithio a Thwristiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Teithio a Thwristiaeth