Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Buddsoddiad mewn pynciau STEM yn dod â labordai o'r radd flaenaf i gampws y coleg yn Llangefni

Agorwyd labordai newydd sbon ar gampws Coleg Menai yn Llangefni. Mae hyn yn rhan o brosiect gwerth £1.9m i wella'r cyfleusterau ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i fyfyrwyr y coleg.

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cael £1.2 miliwn gan 'Raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif' Llywodraeth Cymru tuag at brosiect uchelgeisiol i uwchraddio 10 labordy ar ei dri safle.

Yn ogystal, mae Magnox a'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear wedi buddsoddi £386,000 ym mhrosiect LabSTEM i foderneiddio'r cyfleusterau yn Llangefni, Dolgellau a Phwllheli. Grŵp Llandrillo Menai sydd wedi cyfrannu gweddill y pecyn cyllido.

Mae'r tri labordy gwyddoniaeth ar gampws Llangefni wedi cael eu hadnewyddu a'u huwchraddio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae hyn ar ben y tri labordy a gwblhawyd eisoes ar gampysau Coleg Meirion-Dwyfor, a bydd labordy arall yn cael ei agor ar gampws Marian Mawr yn Nolgellau i ddarparu cyfleusterau ym maes roboteg a pheirianneg drydanol.

Bwriad LabSTEM yw gwella'r amgylchedd dysgu a phrofiadau'r dysgwyr, denu rhagor o bobl ifanc 16 oed – yn enwedig merched – i astudio Gwyddoniaeth a Pheirianneg, ac ymestyn y cwricwlwm STEM i bynciau fel Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol a Roboteg ac Electroneg.

Yn ogystal â darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddysgwyr y coleg, bydd y prosiect hefyd yn ffurfio rhan o'r datblygiadau ym maes STEM yng ngogledd-orllewin Cymru drwy ddarparu lleoliadau ar gyfer gweithgareddau a drefnir gan sefydliadau eraill a chyfrannu at strategaeth isranbarthol gydlynol.

Yn agoriad swyddogol y labordai yn Llangefni, esboniodd Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, Aled Jones-Griffith, pam fod y prosiect mor bwysig.

“Bydd "LabSTEM" yn cynnig i'n dysgwyr amgylcheddau a chyfleoedd blaengar a fydd yn gwella eu dysgu. Bydd hyn yn dod â manteision sylweddol i ddysgwyr, cyflogwyr a'r economi ehangach.

"Mae'r galw am bobl ifanc sydd wedi astudio pynciau STEM ar lefel 3 neu uwch, un ai'n academaidd neu'n alwedigaethol, yn tyfu a disgwylir iddo dyfu ymhellach. Dywedir y bydd 75% o holl swyddi'r DU dros ddegawd nesaf yn gofyn am wybodaeth a sgiliau ym maes STEM."

Ychwanegodd,

"Mae'r galw am weithwyr STEM yr un mor gryf yma yng Ngogledd Cymru, ac er bod y cynllun mawr i ddatblygu Wylfa Newydd wedi dod i ben am y tro, mae nifer sylweddol o ddatblygiadau eraill sy'n gysylltiedig ag ynni ar y gweill yn y y rhanbarth."

"Bydd y prosiect moderneiddio hwn yn sicrhau bod gan ein holl ddysgwyr STEM y cyfleusterau ansawdd uchel diweddaraf i gefnogi eu hastudiaethau a'u bod yn cael meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn yr ardal."

"Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Lywodraeth Cymru, Magnox a NDA am fuddsoddi’n sylweddol yn y prosiect, ac i'r holl bartneriaid lleol sydd wedi cefnogi ein gweledigaeth."

Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg,

"Mae'n bwysig ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant i bobl leol sy'n arwain at swyddi o ansawdd uchel ac yn cynhyrchu gweithlu medrus ar gyfer prif ddiwydiannau gogledd Cymru."

“Rydw i'n wirioneddol falch o allu cefnogi datblygiad y cyfleusterau newydd hyn a fydd yn galluogi rhagor o bobl i astudio pynciau gwyddonol a thechnegol yn eu cymuned leol yma yng ngogledd Cymru."

Dywedodd Jamie Reed, Cyfarwyddwr Economaidd-Gymdeithasol yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA)

"Mae Grŵp yr NDA yn buddsoddi tua £15m y flwyddyn yn y cymunedau hynny lle rydym yn datblygu ein cenhadaeth datgomisiynu niwclear, gan drosoli miliynau yn fwy yn y broses.

“Hyd yn hyn mae ein gwaith wedi arwain at ddarparu ysgolion, swyddi, sgiliau a chyfleusterau hyfforddi Newydd yn y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt. Mae'r NDA a Magnox wedi ymrwymo i annog a datblygu addysg a sgiliau, a chreu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy.

"Bwriad y prosiect yw gwneud pynciau STEM yn atyniadol i bawb ac annog mwy o amrywiaeth ledled y gweithlu. Fel rhan o ystod o fentrau yng Ngogledd Cymru sy’n anelu at gyflogaeth gwerth uchel, mae hwn yn gyfraniad pwysig at sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i gael mynediad at swyddi diogel yn y rhanbarth.”